Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 368/2024
Cais:
Rwy’n cynnal adolygiad cwmpasu o lenyddiaeth i ateb y cwestiwn canlynol: ‘Pa ddulliau sydd wedi’u defnyddio gan yr heddlu i wella ymchwiliadau unigolion coll, gan ystyried barn ac agweddau presennol personél yr heddlu ar y dulliau hyn?’
O’r herwydd, rwy’n bwriadu cyfosod gwybodaeth sy’n berthnasol i’r cwestiwn a grybwyllwyd uchod i roi cipolwg clir ar strategaethau ac offer yr heddlu pan gaiff swyddogion eu galw i ymchwilio i unigolion coll. Bydd canfyddiadau fy adolygiad o lenyddiaeth yn darparu tystiolaeth empirig am ddulliau’r heddlu sy’n arwain yn ymarferol at wella ymchwiliadau i unigolion coll ynghyd â barn swyddogion heddlu ar y dulliau hyn sy’n adleisio pwyntiau hollbwysig o ran eu heffeithiolrwydd a’u defnyddioldeb ymarferol. Bydd hyn yn agor llwybr ymchwil perthnasol pellach, a fydd yn fuddiol i'r heddluoedd a meysydd academaidd seicoleg, cymdeithaseg, troseddeg a pholisi cyhoeddus.
I’r perwyl hwn, hoffwn ofyn am unrhyw wybodaeth berthnasol y mae heddluoedd y DU neu ymchwilwyr yn ei chadw am lenyddiaeth nad yw’n cael ei hadolygu gan gymheiriaid (llwyd). Gallai hyn ymwneud ag astudiaethau, adroddiadau, gwerthusiadau awdurdod heddlu neu hyd yn oed papurau cynhadledd o'r wybodaeth ganlynol:
Ymatebion 1 – 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani; ond, mae’r esemptiad a ganlyn wedi’i gymhwyso i’r wybodaeth honno:
Adran 21 – Gwybodaeth sy’n rhesymol hygyrch drwy ddulliau eraill
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Lle dibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam bod yr esemptiad yn gymwys.
Mae’r esemptiad uchod wedi’i gymhwyso mewn perthynas â’r cais cyfan, oherwydd bod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi’i chyhoeddi a bod modd ei chyrchu trwy’r hyperddolenni canlynol -
Polisi unigolion coll 442/2022 | Heddlu Dyfed-Powys
polisi-unigolion-coll (dyfed-powys.police.uk)
Unigolion coll | Coleg Plismona
Ymateb 5:
Nid yw’r cais yn gais dilys o dan adran 8 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, felly am y rhesymau a amlinellir isod ni ellir ymdrin â’r cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae adran 8 o’r Ddeddf yn darparu’r canlynol:
(1) Yn y Ddeddf hon mae unrhyw gyfeiriad at “gais am wybodaeth” yn gyfeiriad at gais o’r fath sydd-
(a) yn ysgrifenedig,
(b) yn datgan enw’r ceisydd a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth, ac
(c) yn disgrifio’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
(2) At ddibenion is-adran (1)(a), mae cais i’w drin fel pe bai wedi ei wneud yn ysgrifenedig pan fo testun y cais-
(a) yn cael ei drosglwyddo drwy ddull electronig,
(b) yn dod i law ar ffurf ddarllenadwy, ac
(c) yn addas i’w ddefnyddio at ddibenion cyfeirio dilynol.
Mae’n ofynnol yn ôl statud i gais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ddisgrifio’r wybodaeth y gofynnir amdani, yn nhermau gwybodaeth gofnodedig a ddelir gan Heddlu Dyfed-Powys, fel y’i diffinnir gan adran 8(1)(c).
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn darparu’r hawl mynediad i wybodaeth a gofnodwyd yn unig. Nid yw’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus ateb cwestiynau uniongyrchol neu ddamcaniaethol na rhoi sylwadau neu farn, oni bai bod gwybodaeth gofnodedig yn bodoli a allai ateb cwestiynau o’r fath ei hun.
Mae’n amlwg o’r cais y gofynnir am sylwadau/barn mewn perthynas â’ch cais; ac felly, nid yw’n ymwneud â gwybodaeth a gofnodwyd.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mae’r ymateb hwn yn cynrychioli hysbysiad gwrthod ar gyfer y rhan hon o’ch cais o dan adran 8(1)(c) o’r Ddeddf.
Ymateb 6:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth gan Heddlu Dyfed-Powys oherwydd nad oes astudiaeth wedi’i chynnal i fesur effeithiolrwydd cost yn y modd a awgrymir yn y cais, felly nid oes unrhyw ddogfennau i’w rhannu.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 26 Ebrill 2024)