Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 326/2024
Cais:
Hoffwn wybod pa wybodaeth/ystadegau sydd gennych ynglŷn â nifer a difrifoldeb damweiniau ffordd / gwrthdrawiadau ers 17 Medi 2023.
Yn benodol, hoffwn wybod a fu mwy o ddamweiniau neu lai o ddamweiniau ers gosod y terfyn 20mya cyffredinol ar draws ardal blismona Dyfed-Powys yng Nghymru.
Ymateb:
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai fod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, yr ymgeisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond mae’r esemptiadau canlynol wedi’u cymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 22 – Gwybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi yn y dyfodol:
“(1) Mae gwybodaeth yn wybodaeth esempt—
(a) os ydyw’r wybodaeth yn cael ei chadw gan yr awdurdod cyhoeddus gyda’r bwriad o’i chyhoeddi, gan yr awdurdod neu unrhyw unigolyn arall, ar ryw ddyddiad yn y dyfodol (boed hynny wedi’i benderfynu ai peidio),
(b) os oedd yr wybodaeth eisoes yn cael ei chadw gyda golwg ar gyhoeddiad o'r fath ar yr adeg y gwnaed y cais am wybodaeth, ac
(c) os ydyw’n rhesymol ym mhob amgylchiad i atal yr wybodaeth rhag cael ei datgelu tan y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (a).”
Mae adran 22 yn esemptiad amodol ar sail dosbarth a rhaid ystyried a fyddai darparu’r wybodaeth cyn y dyddiad cyhoeddi disgwyliedig o fudd i’r cyhoedd.
Prawf budd y cyhoedd
Ystyriaethau o blaid datgelu:
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i ddangos ethos o ddidwylledd, tryloywder ac atebolrwydd, a byddai datgelu’r wybodaeth yn cael ei weld fel rhywbeth sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ac yn dangos ymwybyddiaeth barhaus. Byddai gwybodaeth gyfredol yn gwella gwybodaeth y cyhoedd o’r pwnc ac efallai y byddai hynny’n llywio trafodaeth gyhoeddus ar y pwnc hwn yn well.
Ystyriaethau o blaid peidio â datgelu:
Mae’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei chyhoeddi’n rhagweithiol gan Lywodraeth Cymru ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU a byddai datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn achub y blaen ar y datgeliad hwn. Mae prosesau cyhoeddi ar waith a bydd datgelu y tu allan i’r prosesau hynny a drefnwyd yn golygu bod prosesau o’r fath yn anarferedig. Mae prosesau o’r fath ar waith i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi’n rhagweithiol, sy’n cyd-fynd â’r ethos o fod yn agored ac yn dryloyw a geir yn Neddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Prawf cydbwysedd
Mae angen cydbwyso ffactorau i weld a ydynt o blaid datgelu neu beidio â datgelu’r wybodaeth. Yn yr achos hwn, yr ystyriaeth gryfaf ar gyfer datgelu yw dangos ethos o fod yn agored, yn dryloyw ac yn atebol, gan bwyso a mesur yn erbyn yr ystyriaeth am beidio â datgelu, sef, yn yr achos hwn, bod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cael ei chynhyrchu a’i chyhoeddi’n rhagweithiol. Mae cyhoeddi gwybodaeth yn rhagweithiol yn helpu i fodloni prawf budd y cyhoedd, byddai datgelu’r wybodaeth yn gynharach yn golygu bod prosesau o’r fath yn anarferedig, a byddai’n rhaid i’r heddlu ateb ceisiadau rhyddid gwybodaeth yn barhaus pan fydd proses yn ei lle sy’n sicrhau bod yr heddlu yn agored ac yn dryloyw mewn perthynas â gwybodaeth o’r fath. Felly, ar hyn o bryd, nid yw’r prawf cydbwysedd ar gyfer datgelu yn cael ei wireddu.
Felly, yn holl amgylchiadau’r achos, mae budd y cyhoedd o gadw’r esemptiad yn drech na budd y cyhoedd o ddatgelu’r wybodaeth.
Sylwch fod y data ar gyfer 2023 i gyd yn y broses o gael ei goladu a'i ddilysu cyn ei gyhoeddi. Bydd data ar gyfer 2023 i gyd yn cael ei gyhoeddi ar wefannau Llywodraeth Cymru ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU ar ddechrau mis Mai 2024.
Dyma ddolenni i'r gwefannau:
https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Transport/Roads/Road-Accidents/Accident-Level-Data
https://www.llyw.cymru/gwrthdrawiadau-ffyrdd-wediu-cofnodi-gan-yr-heddlu-dangosfwrdd-rhyngweithiol
Ystadegau damweiniau ffyrdd a diogelwch – GOV.UK (www.gov.uk)
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 4 Ebrill 2024)