Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 611/2024
Cais:
Yr wyf yn ceisio darganfod pa fath o gefnogaeth yr ydych yn ei chynnig i’ch swyddogion a’ch staff wrth iddynt nesáu at eu hymddeoliad. Pa bynciau y mae'r gefnogaeth hon yn eu cwmpasu, pwy sy'n cael eu gwahodd i fynychu, a phwy sy'n darparu pob un o'r gwasanaethau hyn?
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:-
Ymateb
Mae’r Tîm Pensiynau yn cynnig cyfarfodydd gyda swyddogion a staff pan fyddant yn nesáu at ymddeol, yn ogystal a sesiynau ‘un-i-un’ rheolaidd drwy gydol y flwyddyn lle gall unrhyw swyddogion sy’n nesáu at ymddeol neu sydd ar unrhyw gam o’u gyrfa ofyn am gymorth ynghylch pensiynau.Weithiau mae'r rhain yn cael eu trefnu gan y Tîm Pensiynau, neu'n cael eu cyfathrebu â'r ffederasiwn/Unsain a Chymdeithas yr Uwch-arolygwyr fel bod pob parti yn ymwybodol ac yn trefnu cyfarfodydd. Mae swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys ac aelodau eraill o'r Tîm Pensiynau hefyd wrth law i gynorthwyo wrth fynd o amgylch y gorsafoedd.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 15 Gorffennaf 2024)