Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 672/2024
Cais:
Pan fydd Heddlu Dyfed-Powys yn cael adroddiad trwy e-bost gan aelod o’r cyhoedd sy’n honni bod unigolyn yn gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn rheolaidd ac nad yw’n ymwneud â digwyddiad ‘byw’, mae Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu yn ei logio er gwybodaeth ac mae’n cael ei anfon at y Tîm Troseddau a Digwyddiadau.
Unwaith y bydd y Tîm Troseddau a Digwyddiad wedi’u derbyn, a all rheolwr o’r tîm esbonio pa gamau/ystyriaethau/penderfyniadau a wneir gan y swyddogion yn y Tîm Troseddau a Digwyddiad mewn perthynas â’r adroddiad ac o fewn pa amserlen?
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ymateb gan Dîm y Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau:
Bydd camau gweithredu yn amrywio yn dibynnu ar natur y neges STORM (System Gofnodi Digwyddiadau a Defnydd o Adnoddau) a'r wybodaeth sydd ynddi.
Bydd swyddogion yn ystyried a oes digon o wybodaeth i gyflwyno cofnod cudd-wybodaeth. Os oes, bydd cofnod cudd-wybodaeth yn cael ei gyflwyno gan ddefnyddio cyfrifiaduron yr heddlu yn unol â safonau cenedlaethol.
Os nad oes digon o fanylion i gyflwyno cofnod, gall swyddog ffonio neu gysylltu â'r ffynhonnell i gael rhagor o wybodaeth. Pan ddaw'r wybodaeth honno i law, bydd cofnod cudd-wybodaeth yn cael ei gyflwyno gan ddefnyddio cyfrifiaduron yr heddlu yn unol â safonau cenedlaethol.
Cyflwynir cofnod cudd-wybodaeth i'r FIB (Adran Cudd-wybodaeth yr Heddlu).
Nid yw hyd cyfartalog yr amser rhwng derbyn cofnod STORM a chyflwyno cofnod cudd-wybodaeth yn cael ei gadw/gofnodi.
Mae negeseuon STORM yn cael eu hadolygu gan y rhingylliaid pan gânt eu derbyn yn y Ganolfan Troseddau a Digwyddiadau a'u blaenoriaethu ar sail bygythiad niwed a risg.
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 25 Gorffennaf 2024)