Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 735/2024
Cais:
A oes gennych unrhyw wybodaeth am bresenoldeb cyfarfodydd pwyllgor rhyng-ffydd sydd, rwy’n credu, yn cael eu rhedeg gan bob heddlu.
Mae’r wybodaeth sydd ei hangen arnaf fesul mis ers Ionawr 2022 yn dangos faint o gyfarfodydd pwyllgor rhyng-ffydd a gynhaliwyd a phresenoldeb ar gyfer pob mis ynghyd â faint a wahoddwyd.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, mae hyn oherwydd y ffaith nad oes unrhyw gyfarfodydd pwyllgor rhyng-ffydd yn cael eu trefnu’n rheolaidd gan Heddlu Dyfed-Powys, ac nid oes yr un ohonynt wedi’u cynnal o fewn yr amserlen y gofynnwyd amdani.
Sylwch fod ein dealltwriaeth o ‘gyfarfodydd pwyllgor rhyng-ffydd’ yn golygu: cyfarfod o swyddogion heddlu a staff o wahanol ffydd, ac o bosibl gyda phresenoldeb ffigurau cymunedol sy’n cynrychioli grwpiau ffydd amrywiol, yn dod at ei gilydd i drafod plismona a/neu materion cymunedol o safbwynt ffydd, neu i drafod sut y gall gweithrediadau plismona effeithio ar grwpiau ffydd amrywiol.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 29 Gorffennaf 2024)