Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 638/2024
Cais
Rwy’n ysgrifennu ynghylch GanBwyll, Ymgyrch SNAP neu ba bynnag system sydd gennych ar waith i’r cyhoedd roi gwybod i chi am droseddau gyrru a’r canlyniadau.
Ymateb
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ond gellir cael y manylion fel a ganlyn:
Adran 21 – Gwybodaeth sy’n rhesymol hygyrch drwy ddulliau eraill
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Pan ddibynnir ar esemptiadau, mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd:
(a) yn datgan y ffaith honno,
(b) yn pennu’r esemptiad o dan sylw, ac
(c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys.
Mae’r eithriad uchod wedi’i gymhwyso mewn perthynas â chwestiynau 1 a 2 o’r cais hwn, oherwydd bod yr wybodaeth y gofynnwyd amdani eisoes wedi’i chyhoeddi a bod modd ei chyrchu trwy’r hyperddolenni canlynol:
System a ddefnyddir ar gyfer adrodd gan y cyhoedd mewn perthynas â throseddau gyrru = Ymgyrch SNAP – Ymgyrch SNAP (gosafesnap.wales)
Mae ymateb i’r cwestiwn hwn wedi’i gyhoeddi ar dudalen cwestiynau cyffredin Ymgyrch SNAP: https://www.ganbwyll.org/cwestiynau-cyffredin/
Ymateb ychwanegol i gwestiwn tri
Yr unig amser y bydd person yn gwybod yr union ganlyniad yw os bydd y mater yn mynd i'r llys ac efallai y bydd y sawl sy'n adrodd yn cael ei alw fel tyst.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Gorffennaf 2024)