Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 24/2024
Cais:
1. Nodwch nifer y dyfeisiau digidol sy'n aros i'r heddlu eu harchwilio ar hyn o bryd, neu sy’n aros i gael eu harchwilio ar ran yr heddlu.
2. Rhowch ddadansoddiad o'r uchod gan nodi:
a. Pa nifer sydd i gael eu harchwilio'n fewnol gan yr heddlu.
b. Pa nifer sydd i'w harchwilio gan gontractwr allanol.
3. Nodwch nifer cyfartalog y diwrnodau y mae ei angen i ddyfais ddigidol gael ei harchwilio ar hyn o bryd.
4. Rhowch ddadansoddiad o'r uchod gan nodi:
a. Nifer cyfartalog y diwrnodau y mae’r heddlu’n ei dreulio yn archwilio dyfais yn fewnol ar hyn o bryd.
b.Nifer cyfartalog y diwrnodau y mae contractwr allanol yn ei dreulio yn archwilio dyfais.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ar hyn o bryd mae 112 o ddyfeisiau yn aros i gael eu harchwilio.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
a) Mae 112 o ddyfeisiau yn aros i gael eu harchwilio'n fewnol.
b) Sero (0), am nad ydym yn rhoi’r gwaith o archwilio dyfeisiau digidol i gontractwr allanol.
Ymatebion 3 a 4:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys gan nad yw nifer cyfartalog y diwrnodau wedi’u cofnodi.
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 1 Mawrth 2024)