Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 342/2024
Cais:
Faint o arestiadau sydd wedi’u gwneud yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn ardal eich heddlu wrth ddefnyddio technoleg adnabod wynebau?
A allech chi ddarparu dadansoddiad o’r dulliau adnabod wynebau a ddefnyddiwyd: adnabod wynebau yn ôl-weithredol (RFR), adnabod wynebau ar y pryd (LFR) neu adnabod wynebau gan weithredwr (OIFR)?
A allech chi ddarparu dadansoddiad o ethnigrwydd a rhyw y bobl a arestiwyd a faint o’r rhain a arweiniodd at gyhuddiad troseddol?
A allech chi hefyd ddarparu dadansoddiad o’r math o drosedd?
A wnewch chi ddadansoddi hyn i gyd fesul blwyddyn (blwyddyn galendr os yn bosibl)?
Ymateb:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw/yn cael ei chofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â’ch cais uchod gan nad ydym yn gweithredu system adnabod wynebau o fewn yr heddlu hwn.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 28 Mai 2024)