Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 414/2024
Cais:
Dylai pob ymateb wahaniaethu rhwng ‘rhyw’ a ‘rhywedd’.
Os na, sut ydych chi’n cipio’r ffaith bod gwrywod yn fwy tebygol o droseddu na benywod?
A ydyw Heddlu Dyfed-Powys yn cofnodi data trosedd sy’n nodi rhyw a hunaniaeth rhywedd y cyflawnwr?
Cwestiwn yn ceisio eglurhad: Beth ydych chi’n ei olygu gan y gair ‘paneli’?
Ateb eglurhaol: Unrhyw banel, lle mae’n rhaid i ymgeisydd lenwi ffurflen gwybodaeth bersonol i gael rôl ar y panel. Gallai hwn olygu’r ‘Panel Sicrhau Ansawdd’, aelodau annibynnol ‘Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys’ ac ati.
Cwestiwn yn ceisio eglurhad: Lle’r ydych wedi cyfeirio at aelodau o staff, a ydych chi eisiau data yn ymwneud â staff neu swyddogion hefyd?
Ateb eglurhaol: Y ddau.
a) A ydyw’r ffurflen sy’n cael ei llenwi gan ymgeiswyr am swyddi yn wahanol i hon ac os felly, pam mae’r ddwy ffurflen yn wahanol wrth gasglu gwybodaeth?
b) A oes modd anfon copi o’r ffurflen gais am swydd ataf?
c) A ydyw’r ffurflen honno’n holi ynghylch ‘rhyw’?
Cwestiwn yn ceisio eglurhad: Lle’r ydych wedi cyfeirio at gyflogai, ai staff yr heddlu a/neu swyddog heddlu sydd gennych mewn golwg?
Ateb eglurhaol: Unrhyw swyddog heddlu neu aelod o staff y mae’r swyddog dosbarthu yn ei gyfarwyddo i ymdrin â sefyllfa benodol, sy’n cynnwys cyswllt â’r cyhoedd.
Cwestiwn yn ceisio eglurhad: At ba ‘gyflogai’ ydych chi’n cyfeirio?
Ateb eglurhaol: Yr ateb eto yw’r swyddogion hynny neu aelodau eraill o staff y mae’r swyddog dosbarthu yn eu gorchymyn i ymdrin â’r cyhoedd. Mae’n amlwg bod llawer o sefyllfaoedd lle mae rhyw yn amherthnasol ond, mae rhai amgylchiadau sensitif lle mae’n bwysig i fenywod bod menyw arall yn delio â nhw.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Cofnodir data mewn perthynas â rhywedd
Cofnodir data ar gyfer statws trawsryweddol:
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Cofnodir rhyw/rhywedd o dan yr un teitl. Fel heddlu rydym yn cofnodi’r data hyn ar sail adnabyddiaeth y dioddefwr/y sawl a ddrwgdybir.
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ystyried bod pob nodwedd warchodedig yn bwysig, gan gynnwys rhyw a rhywedd, gan fod hyn yn ein galluogi i ddeall y ddemograffeg o fewn ein poblogaeth, ond hefyd yn ein helpu i ddeall proffiliau ein dioddefwyr a’r rhai a ddrwgdybir, ac mae’n ddefnyddiol i ddeall patrymau a thueddiadau trosedd.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydyw, ar gyfer aelodau staff a swyddogion: Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cyhoeddi ei Dyletswydd Cyfrifoldeb y Sector Cyhoeddus yn flynyddol.
Ymateb 5:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Ydyw.
Ymateb 6:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
a) Ydyw, mae’r ffurflen gais am swydd yn wahanol i’r ffurflen Grŵp Cynghori Annibynnol. Mae hyn oherwydd bod adrannau gwahanol yn ymdrin â phob un ohonynt.
b) Mae’r ffurflen Cyfle Cyfartal i’w chael ar y system recriwtio ar-lein. Dyma sgrinlun ohoni.
c) Mae ffurflenni cais system recriwtio’r heddlu ar gyfer swyddi gwag allanol yn cynnwys rhyw.
Ymateb 7:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn anelu at gynrychiolaeth amrywiol o’r holl nodweddion gwarchodedig ar ein Grŵp Cynghori Annibynnol.
Ymateb 8:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Gweler ymatebion 1 a 3.
Ymatebion 9, 10 ac 11:
Nid yw’r cais yn gais dilys o dan adran 8 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, felly am y rhesymau a amlinellir isod ni ellir ymdrin â’r cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae adran 8 o’r Ddeddf yn darparu:
(1) Yn y Ddeddf hon mae unrhyw gyfeiriad at “gais am wybodaeth” yn gyfeiriad at gais o’r fath sydd—
(a) yn ysgrifenedig,
(b) yn datgan enw’r ceisydd a chyfeiriad ar gyfer gohebiaeth, ac
(c) yn disgrifio’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
(2) At ddibenion is-adran (1)(a), mae cais i’w drin fel pe bai wedi ei wneud yn ysgrifenedig pan fo testun y cais—
(a) yn cael ei drosglwyddo drwy ddull electronig,
(b) yn dod i law ar ffurf ddarllenadwy, ac
(c) yn addas i’w ddefnyddio at ddibenion cyfeirio dilynol.
Mae’n ofynnol yn ôl statud i gais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ddisgrifio’r wybodaeth y gofynnir amdani, yn nhermau gwybodaeth gofnodedig a gedwir gan Heddlu Dyfed-Powys, fel y’i diffinnir gan adran 8(1)(c).
Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn darparu’r hawl mynediad i wybodaeth a gofnodwyd yn unig. Nid yw’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cyhoeddus ateb cwestiynau uniongyrchol neu ddamcaniaethol na rhoi sylwadau neu farn, oni bai bod gwybodaeth gofnodedig yn bodoli a allai ateb cwestiynau o’r fath ei hun.
Mae’n amlwg o’r cais y gofynnir am sylwadau/barn mewn perthynas â’ch cais; ac felly, nid yw’n ymwneud â gwybodaeth a gofnodwyd.
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mae’r ymateb hwn yn cynrychioli hysbysiad gwrthod ar gyfer y rhan hon o’ch cais o dan adran 8(1)(c) o’r Ddeddf.
Ymateb 12:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae gwall ar y ffurflen. Dylai ddatgan ‘rhyw’, nid ‘rhywedd’. Bydd hwn yn cael ei gywiro.
Ymateb 13:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Oes. Mae’r swyddogion yn gyfrifol am gasglu cymaint o ddata â phosibl a byddai hyn yn cynnwys rhyw y sawl a ddrwgdybir.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 28/05/2024)