Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 918/2023
Cais:
Faint o brentisiaid sydd yn yr Heddlu, faint sy’n mynd drwy gyfrwng y Gymraeg a faint yn ddwyieithog?
A fyddai hi’n bosibl cael y wybodaeth wedi ei dosbarthu yn ôl cymhwyster, yn ogystal â fel cyfanswm?
Pwy sy’n rhedeg prentisiaethau ac yn darparu adnoddau ar gyfer prentisiaid?
C Eglurhad:
Mewn perthynas â’ch cais - Faint o brentisiaid sydd yn yr Heddlu, faint sy’n mynd drwy gyfrwng y Gymraeg a faint yn ddwyieithog?
Allwch chi fod yn fwy penodol os gwelwch yn dda ynghylch pa wybodaeth yr ydych yn ei cheisio.
A Eglurhad:
C Eglurhad:
Beth yn union ydych chi’n ei olygu gan brentisiaethau, h.y.
A allwch chi fod yn fwy penodol os gwelwch yn dda er mwyn i ni allu darparu ymateb mwy ystyrlon i chi.
A Eglurhad:
Mae’n ddrwg gen i am y dryswch, nifer y rhai hynny’n dilyn prentisiaeth er mwyn dod yn swyddog heddlu oedd e, a nifer y rhai hynny’n dilyn prentisiaeth yn Gymraeg er mwyn dod yn swyddog heddlu.
Bydden ni’n cymryd bod hynny’n golygu'r rhai hynny sy’n dilyn y llwybr prentisiaeth swyddogion yr heddlu a’r rhai hynny’n dilyn y rhaglen brentisiaeth dwy flynedd.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed Powys yn dal y wybodaeth a geisiwyd, fel yr amlinellir isod.
Llwybr prentisiaeth Swyddogion yr Heddlu (PGSH): 143
Prentisiaethau newydd i’r swydd ar raglen brentisiaeth cyfnod penodol 2 flynedd: 12
Cwnstabliaid yr Heddlu llwybr mynediad Prentisiaeth Gradd Swyddogion yr Heddlu, Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona:
Cymraeg – 0
Dwyieithog – 0
Bydd y darparwr allanol yn darparu’r adnoddau’n ymwneud â’r brentisiaeth.
Bydd Heddlu Dyfed Powys yn darparu’r sefydlu i rôl y brentisiaeth.
Llwybr prentisiaeth Swyddogion yr Heddlu (PGSH) - Mae adnoddau ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn llwybr mynediad Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona'r PGSH ar gael yn Gymraeg os ydynt yn dymuno hynny, ond hyd yn hyn mae pob un o’r myfyrwyr wedi dewis dilyn deunydd a ddarparwyd yn Saesneg.
(Mae hwn yn ymateb dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 07/05/2024)