Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 670/2023
Cais:
1: Nifer yr adroddiadau o aflonyddu rhywiol, ymosodiad rhywiol a/neu dreisio. Gofynnaf am y data ar bob trosedd o dan y grŵp troseddau rhyw yn unol â rheolau cyfrif y Swyddfa Gartref, neu, fel arall, a gofnodwyd neu a adroddwyd i Heddlu Dyfed-Powys rhwng 1 Ionawr 2021 a 31 Ionawr 2023. Dylai’r troseddau fod wedi digwydd mewn unedau seiciatrig arbenigol, lle’r oedd y dioddefwr naill ai’n glaf mewnol neu’n aelod o staff adeg y drosedd. Os yn bosibl, nodwch a oedd y dioddefwr yn glaf neu’n aelod o staff. Mae cyfansymiau ar gyfer pob uned yn dderbyniol (nid oes rhaid eu rhannu’n wardiau). Rhestrir yr enwau a’r cyfeiriadau isod:
1. Ysbyty Cymunedol Bronllys, Ysbyty Cymunedol Bronllys, Bronllys, Powys, LD3 0LU
2. Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais, Ward Tawe, Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais, Ffordd Glanrhyd, Ystradgynlais, Abertawe, SA9 1AU
3. Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog, Ward Crug, Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog, Heol Cerrigcochion, Aberhonddu, Powys, LD3 7NS
4. Ysbyty Coffa Llandrindod, Ward Clywedog, Ysbyty Coffa Llandrindod, Stryd y Deml, Llandrindod, LD1 5HF
5. Parc Dewi Sant, Hafan Derwen, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB
Uned iechyd meddwl Cwm Seren
Uned seiciatrig Tŷ Tudur
Uned seiciatrig Tŷ Tudur
Uned seiciatrig Tŷ Bryn
Ward Enlli
6. Uned Iechyd Meddwl Aberystwyth, Ysbyty Bronglais, Ffordd Caradog, Aberystwyth, SY23 1ER
7. Uned Iechyd Meddwl Caebryn, Ysbyty Tywysog Philip, Bryngwyn Mawr, Dafen, Llanelli, SA14 8QF
8. Uned Iechyd Meddwl Caerfyrddin, Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Heol Dolgwili, Caerfyrddin, SA31 2AF
9. Uned Iechyd Meddwl Hwlffordd, Ysbyty Bro Cerwyn, Heol Abergwaun, Hwlffordd, SA61 2PG
2: Canlyniadau’r troseddau a gofnodwyd ym mhob un o’r adroddiadau y manylir arnynt yng nghwestiwn 1.
Cwestiwn i geisio eglurhad:
O ran cwestiwn 1, a ydych yn cyfeirio at ddigwyddiadau neu droseddau? Sylwch fod digwyddiad yn wahanol i drosedd. Digwyddiad yw cofnod o gyswllt a wnaed â’r heddlu gan unigolyn/aelod o’r cyhoedd (fel arfer trwy alwad 999 neu 101), a throsedd yw pan fo’r trothwy wedi’i gyrraedd er mwyn i’r heddlu dybio bod trosedd wedi digwydd, fel y’i diffinnir gan y gyfraith.
Ateb i egluro:
Yr wyf yn cyfeirio at droseddau yn hytrach na digwyddiadau.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Lleoliad |
Claf |
Staff |
Heb ei nodi |
Cyfanswm |
|
1 |
2 |
0 |
0 |
2 |
|
2 |
0 |
0 |
0 |
0 |
|
3 |
0 |
0 |
0 |
0 |
|
4 |
1 |
0 |
0 |
1 |
|
5 |
0 |
0 |
0 |
0 |
|
6 |
2 |
1 |
1 |
4 |
|
7 |
2 |
0 |
1 |
2 |
|
8 |
5 |
4 |
1 |
10 |
|
9 |
3 |
0 |
0 |
3 |
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Canlyniadau |
Nifer |
|
Canlyniad 10: Ni fyddai’r cam gweithredu ffurfiol er budd y cyhoedd |
1 |
|
Canlyniad 12: Yr unigolyn a ddrwgdybir yn rhy sâl i’w erlyn |
2 |
|
Canlyniad 13: Y dioddefwr neu’r prif dyst wedi marw / yn rhy sâl |
1 |
|
Canlyniad 15: Mae’r dioddefwr o blaid camau gweithredu, ond y mae anawsterau tystiolaethol |
5 |
|
Canlyniad 16: Nid yw’r dioddefwr o blaid (neu ddim o blaid bellach) – yr unigolyn a ddrwgdybir wedi’i enwi |
4 |
|
Canlyniad 18: Ymchwiliad wedi’i gwblhau – ni nodwyd unrhyw unigolion a ddrwgdybir |
5 |
|
Canlyniad 20: Yn nwylo asiantaeth arall |
1 |
|
Canlyniad 21: Ni fyddai ymchwiliad pellach i ategu’r gweithredu ffurfiol er budd y cyhoedd |
2 |
|
Ymchwiliad yn parhau |
1 |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 2 Mai 2024)