Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 220/2024
Cais:
Rwy’n gofyn am yr wybodaeth ganlynol:
1) Ers 1 Ionawr 2018, sawl aelod o staff yn eich heddlu sydd wedi gwneud cwyn am aflonyddu rhywiol yn erbyn cyd-aelod o staff?
2) Faint o’r cwynion a wnaed o fewn yr amser hwnnw a gadarnhawyd?
3) Beth ddeilliodd o’r cwynion a gadarnhawyd? Gall canlyniadau gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i rybudd llafar, rhybudd ysgrifenedig, gwaharddiad, diswyddiad, neu atgyfeiriad i gamau cyfreithiol.
4) Os nad yw’n peri i’r cais fynd uwchlaw’r uchafswm o ran cost, a allwch chi hefyd gynnwys y canlynol?
(i) Natur yr honiad
(ii) Rhywedd a rheng yr achwynydd
(iii) Rhywedd a rheng y cyflawnwr honedig
(iv) Lle bu’r cyflawnwr yn gwasanaethu (h.y. y sir neu’r dref)
5) a) Pob canlyniad camymddwyn yn ymwneud â honiadau, gan gynnwys nifer y staff a ddiswyddwyd o ganlyniad i’r honiad.
b) Holl ganlyniadau troseddol yr honiadau wedi’u dadansoddi fesul: i) cyhuddiadau, a ii) euogfarnau.
c) Nifer yr honiadau, i) yr ymchwiliwyd iddynt, ac yna ii) a gadarnhawyd gan a) yr Adran Safonau Proffesiynol, a b) Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Ymateb:
Cwestiwn 1
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ac esbonnir hyn isod.
Ni all cyflogai wneud cwyn am ei heddlu nac am rywun arall a gyflogir gan yr heddlu (adran 29 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu).
Er nad yw pobl sy’n gwasanaethu gyda’r heddlu yn gallu defnyddio system gwynion yr heddlu i wneud cwyn am eu heddlu eu hunain, gallant godi pryderon trwy ddulliau eraill megis trwy gwynion annhegwch yn y gwaith.
Cwestiynau 2, 3 a 4
Nid oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan nad yw’r cwestiynau hyn yn gymwys ar sail yr ymateb a ddarparwyd yng nghwestiwn 1.
Cwestiwn 5
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth ganlynol sy’n ymwneud â’r cwestiwn hwn, a nodir isod;
Canlyniadau camymddwyn yn ymwneud â honiadau o aflonyddu rhywiol gan un o weithwyr Heddlu Dyfed-Powys:
a) 0
b) 0
c) i) 2 wedi’u hymchwilio ii) 0 wedi’u cadarnhau.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 18 Mawrth 2024)