Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 193/2024
Cais:
Hoffwn wneud cais am yr holl ffigurau canlynol ar gyfer y blynyddoedd hyn: 2019, 2020, 2021, 2022, 2023.
1) Cyfanswm gwariant ar gyfryngau cymdeithasol (yn cynnwys costau staff, meddalwedd, hysbysebion a delir amdanynt ac ati)
2) Nifer y staff a gyflogir i weithio ar y cyfryngau cymdeithasol (cyfwerth ag amser llawn)
3) Cyfanswm gwariant ar gysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu, yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol (yn cynnwys costau staff, meddalwedd, hysbysebu ac ati)
4) Nifer y staff a gyflogir yn y tîm cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu (cyfwerth ag amser llawn)
Yn ddelfrydol, mewn perthynas â rhannau 1 a 3 hoffwn i’r rhain gael eu rhannu i gategorïau fel:
Costau staff (e.e. cyflogau, hyfforddiant, costau teithio), costau meddalwedd (e.e. offer monitro ac amserlennu), costau hysbysebu (e.e. hysbysebion Facebook a delir amdanynt, deunyddiau printiedig). Yna, unrhyw ddadansoddiadau o ran categorïau perthnasol eraill y gallwch eu darparu.
Os na allwch ddarparu’r holl ddata o fewn y cyfyngiadau amser a chyllideb penodedig, gallwch ganolbwyntio ar y blynyddoedd 2021, 2022, 2023.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nid oes gennym symiau ar wahân ar gyfer costau cysylltiadau cyhoeddus/cyfryngau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae gennym dîm cyfathrebu corfforaethol y mae ei gostau fel a ganlyn;
2019-2020 |
£345,549 |
2020-2021 |
£439,945 |
2021-2022 |
£527,669 |
2022-2023 |
£422,520 |
2023-2024 |
£313,096 |
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys gan nad oes gennym unrhyw staff penodol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol fel y cyfryw – ac nid oes gennym ychwaith unrhyw un sydd ag unrhyw ddyletswyddau sy’n ymwneud â hyn yn ei rôl.
Ymateb 3:
Gweler ymateb 1.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
|
Staff a gyflogir yn y tîm cysylltiadau cyhoeddus/ cyfathrebu |
2019 |
10 |
2020 |
10 |
2021 |
12 |
2022 |
11 |
2023 |
7 |
2024 |
6 |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 27 Mawrth 2024)