Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 1176/2023
Cais:
1) Os gwelwch yn dda, ar gyfer troseddau lladrad a gofnodwyd gan eich heddlu, a allwch chi nodi sawl gwaith y mae testun yr adroddiad trosedd (a ddisgrifir fel adroddiadau mynegai disgrifiadol gan lawer o heddluoedd) yn cynnwys cyfeiriad at ‘oriawr’ a/neu ‘oriorau’ ym mhob un o’r blynyddoedd calendr canlynol:
i) 2019
ii) 2020
iii) 2021
iv) 2022
v) 2023
2) A allwch chi ddarparu copi wedi’i olygu o’r adroddiadau troseddau a wnaed drwy neges destun am ddim ar gyfer y troseddau hyn a gofnodwyd gan eich heddlu rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023?
Eglurhad:
Mewn perthynas â chwestiwn 2, a fyddech chi’n hapus â chrynodeb o adroddiad y drosedd?
Byddwn yn hapus â chrynodeb o adroddiad y drosedd.
Ymateb:
Cwestiwn 1v)
Mae adran 1 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod esemptiadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf yn adran 1(1)(a) yw cadarnhau neu wadu a ydyw’r wybodaeth a bennir mewn cais yn cael ei chadw. Yr ail ddyletswydd yn adran 1(1)(b) yw datgelu gwybodaeth y cadarnhawyd ei bod yn cael ei chadw.
Gallaf gadarnhau bod y gost o benderfynu a ydyw unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais hwn yn cael ei chadw ai peidio yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, felly rydym yn atal yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani gan ein bod yn ystyried bod adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol, yn gymwys iddi.
Lle dibynnir ar esemptiadau mae adran 17 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu Dyfed-Powys, wrth wrthod darparu gwybodaeth o’r fath (gan fod yr wybodaeth yn esempt), roi hysbysiad i chi, y ceisydd, sydd: (a) yn datgan y ffaith honno, (b) yn pennu’r esemptiad dan sylw, ac (c) yn datgan (os na fyddai hynny’n amlwg fel arall) pam fod yr esemptiad yn gymwys. Mae’r esemptiad canlynol wedi’i gymhwyso i’r holl wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani:
Adran 12(2) – Esemptiad lle mae’r gost cydymffurfio yn uwch na’r terfyn priodol
Mae adran 12(2) yn datgan: “Nid yw isadran (1) yn esemptio’r awdurdod cyhoeddus rhag ei rwymedigaeth i gydymffurfio â pharagraff (a) o adran 1(1) oni bai y byddai’r gost amcangyfrifedig o gydymffurfio â’r paragraff hwnnw yn unig yn uwch na’r terfyn priodol.”
Mae’r gost o benderfynu pa wybodaeth a gedwir, os o gwbl, sy’n berthnasol i’ch cais yn uwch na’r swm y mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni ymateb iddo, h.y. mae’r gost o leoli ac adalw’r wybodaeth yn fwy na’r ‘lefel briodol’ fel y nodir yn Rheoliadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd yn hwy na 18 awr (h.y. lleiafswm o 335 awr) i gydymffurfio â’ch cais. Gellir gweld y rheoliadau yn https://www.legislation.gov.uk/cy/uksi/2004/3244
Mae’r Adran Rhyddid Gwybodaeth wedi cael ei hysbysu nad yw’r wybodaeth mewn perthynas â chwestiwn 1v) eich cais yn cael ei chadw mewn fformat hawdd ei adalw. Mae hyn oherwydd y ffaith na allwn, gyda’n system cofnodi troseddau bresennol, a newidiwyd ym mis Mai 2023, gyflawni chwiliadau allweddair na chymhwyso hidlwyr eiddo mynegai disgrifiadol i’r data a byddai’n rhaid i ni adolygu pob trosedd lladrad â llaw i ganfod a oedd yn ymwneud ag oriawr/oriorau.
Felly, er mwyn canfod a oes unrhyw wybodaeth yn berthnasol i’ch cais, byddai angen archwilio pob cofnod trosedd lladrad a grëwyd yn ystod yr amserlen a bennwyd.
Canfuwyd bod cyfanswm o 2,872 o droseddau lladrad wedi’u cofnodi rhwng Mehefin 2023 a heddiw (20 Rhagfyr 2023) y byddai angen eu harchwilio yn unigol, ac amcangyfrifwyd y byddai’n cymryd 10 munud ar gyfartaledd i ymchwilio i bob cofnod unigol. Manylir ar yr amcangyfrif amser perthnasol isod:
Mehefin 2023 – 20 Rhagfyr 2023 = 2,872 cofnod x 7 munud fesul cofnod = 335 awr
Yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’r llythyr hwn yn gweithredu fel hysbysiad gwrthod i’r cyfan o’r cais hwn o dan adran 17(5). Rhaid i awdurdod cyhoeddus sydd, mewn perthynas ag unrhyw gais am wybodaeth, yn dibynnu ar hawliad bod adran 12 neu adran 14 yn gymwys, roi hysbysiad i’r ceisydd yn datgan y ffaith honno o fewn yr amser ar gyfer cydymffurfio ag adran 1(1). Efallai y byddwch am fireinio ac ailgyflwyno’ch cais fel ei fod yn lleihau’r amser a ddangosir uchod er mwyn bod o fewn y 18 awr. Os bydd arnoch angen rhagor o gyngor mewn perthynas â’r mater hwn, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Sylwch hefyd, os caiff y cais ei fireinio, nid yw’n dileu hawl yr heddlu i ddyfynnu esemptiadau os yw’n berthnasol.
Er bod costau ychwanegol wedi dileu rhwymedigaethau’r heddlu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fel arwydd o ewyllys da rwyf wedi darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’ch cais a adalwyd neu a oedd ar gael cyn y sylweddolwyd y byddai’r terfyn ffioedd yn cael ei dorri. Gobeithiaf fod hyn yn ddefnyddiol, ond nid yw’n effeithio ar ein hawl gyfreithiol i ddibynnu ar y rheoliadau ffioedd am weddill eich cais.
Cwestiwn 1
i) 2019 – 19 trosedd lladrad gydag ‘oriawr’ neu ‘oriorau’ yn y categori eiddo wedi’i ddwyn.
ii) 2020 – 8 trosedd lladrad gydag ‘oriawr’ neu ‘oriorau’ yn y categori eiddo wedi’i ddwyn.
iii) 2021 – 26 trosedd lladrad gydag ‘oriawr’ neu ‘oriorau’ yn y categori eiddo wedi’i ddwyn.
iv) 2022 – 12 trosedd lladrad gydag ‘oriawr’ neu ‘oriorau’ yn y categori eiddo wedi’i ddwyn.
v) 2023 (hyd at 11 Mai 2023) – 1 drosedd lladrad gydag ‘oriawr’ neu ‘oriorau’ yn y categori eiddo wedi’i ddwyn.
Cwestiwn 2
Ebrill 2023 – cofnodwyd 1 lladrad perthnasol:
Dioddefwr yn adrodd mai dim ond rhan o’i archeb a ddaeth i law, gyda dim ond un oriawr allan o dair wedi’i dderbyn.
Sylwer: Ni allwn ddarparu crynodeb ar gyfer lladradau oriawr, os o gwbl, rhwng mis Mai a mis Mehefin 2023 gan y byddai’n rhaid cynnal adolygiad â llaw i’w nodi. Yn ystod y cyfnod hwn, bu 459 o droseddau lladrad. Amcangyfrifir y byddai’n cymryd 7 munud i adolygu pob cofnod, sef cyfanswm o 53.5 awr o waith, a fyddai unwaith eto’n mynd â ni dros y terfyn 18 awr.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 22 Mawrth 2024)