Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 233/2024
Cais:
Gorchmynion atal
Gorchmynion amddiffyn rhag trais domestig
Gorchmynion peidio ag ymyrryd
Gorchmynion amddiffyn rhag stelcio
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ac mae’r manylion fel a ganlyn:
Gorchmynion atal
Nifer yr achosion o dorri amodau gorchmynion atal a gofnodwyd gan Heddlu Dyfed-Powys |
|||
Blwyddyn |
Cyfanswm |
Canlyniad |
|
Dim gweithredu pellach |
Cyhuddo |
||
2020 |
114 |
3 |
58 |
2021 |
177 |
6 |
63 |
2022 |
108 |
2 |
46 |
2023 |
108 |
0 |
32 |
Sylwch: Nid ydym yn cadw data ar gyfer y blynyddoedd 2018 a 2019.
Mae penderfyniad dim gweithredu pellach yn ymwneud â “Chanlyniad 10: Nid fyddai gweithredu ffurfiol er budd y cyhoedd” yn unig.
Gorchmynion Amddiffyn rhag Trais Domestig
Nifer yr achosion o dorri amodau gorchmynion amddiffyn rhag trais domestig a gofnodwyd gan Heddlu Dyfed-Powys |
|||
Blwyddyn |
Cyfanswm |
Canlyniad |
|
Dim gweithredu pellach |
Cyhuddo |
||
2018 |
18 |
Amherthnasol (Gweler isod) |
Amherthnasol (Gweler isod) |
2019 |
23 |
||
2020 |
22 |
||
2021 |
20 |
||
2022 |
48 |
Sylwch: Cedwir y ffigurau ar gyfer toriadau gorchmynion amddiffyn rhag trais domestig fesul blwyddyn ariannol, nid blwyddyn galendr, felly nid yw ffigurau 2023 ar gael eto.
Canlyniad dim gweithredu pellach: Mae arestiadau tor-amod yn cael eu herlyn yn unol â hynny; felly, mae pob achos o dorri rheolau yr adroddir amdano yn cael ei roi gerbron y llysoedd.
Canlyniad cyhuddiad: Nid yw cyhuddiadau'n berthnasol mewn perthynas â thorri'r math hwn o orchymyn. Ymdrinnir â hwy fel mater dirmyg llys sifil.
Gorchmynion peidio ag ymyrryd
Gall gorchmynion peidio ag ymyrryd gynnwys pŵer i arestio. Os nad ydynt yn cynnwys pŵer i arestio, ymdrinnir â hwy fel mater dirmyg llys sifil.
Nifer yr achosion o dorri gorchmynion peidio ag ymyrryd a gofnodwyd gan Heddlu Dyfed-Powys (pŵer i arestio) |
|||
Blwyddyn |
Cyfanswm |
Canlyniad |
|
Dim gweithredu pellach |
Cyhuddo |
||
2020 |
14 |
1 |
1 |
2021 |
33 |
1 |
9 |
2022 |
29 |
0 |
9 |
2023 |
15 |
0 |
6 |
Sylwch: Nid ydym yn cadw data ar gyfer y blynyddoedd 2018 a 2019.
Mae penderfyniad dim gweithredu pellach yn ymwneud â “Chanlyniad 10: Ni fyddai gweithredu ffurfiol er budd y cyhoedd” yn unig.
Ymdriniwyd â sero (0) gorchymyn peidio ag ymyrryd drwy ddirmyg llys sifil o fewn yr amserlen a nodwyd.
Gorchmynion amddiffyn rhag stelcio
Nid ydym yn cadw'r wybodaeth y gofynnir amdani mewn perthynas â'r gorchmynion hyn.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Mae'n ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd a phennir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith yw’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu'r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei gael.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 21 Mawrth 2024)