Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 902/2024
Cais:
1) Cyfanswm nifer yr hawliadau sifil a setlwyd a b) cyfanswm cost y taliadau setliad ym mhob blwyddyn ariannol o 2019/20 i 2023/24, mewn perthynas â hawliadau a wnaed i aelodau o’r cyhoedd.
2) Yn arbennig, byddai crynodeb o faint o’r hawliadau hyn oedd ar gyfer camymddygiad a’r cyfanswm a dalwyd mewn achosion o’r fath yn ddefnyddiol.
---------------------------------------
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau neu wadu a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:-
Ymatebion i Gwestiynau 1 a 2:
Hawliadau Atebolrwydd Cyhoeddus a dderbyniwyd:
2019/2020 – 23 gydag 8 wedi’u setlo, gwerth £70,584.74. Hawliadau ar gyfer camymddygiad mewn swydd gyhoeddus – dim
2020/2021 – 16 gyda 6 wedi’u setlo, gwerth £22,826.00. Hawliadau ar gyfer camymddygiad mewn swydd gyhoeddus – dim
2021/2022 – 35 gyda 10 wedi’u setlo, gwerth £132,962.66. Hawliadau ar gyfer camymddygiad mewn swydd gyhoeddus – dim
2022/2023 – 35 gyda 6 wedi’u setlo, gwerth £13,450.00. Hawliadau ar gyfer camymddygiad mewn swydd gyhoeddus – dim
2023/2024 – 45 gyda 5 wedi’u setlo, gwerth £5,250.00. Hawliadau ar gyfer camymddygiad mewn swydd gyhoeddus – dim
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr Heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 26/09/2024)