Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 775/2024
Cais:
A allech roi crynodeb o’r holl achosion trais a throseddau rhywiol y cofnodwyd eu bod wedi digwydd mewn ysgol yn ardal Dyfed-Powys ar gyfer y tair blynedd diwethaf y mae data ar eu cyfer os gwelwch chi’n dda?
Rhowch grynodeb o’r ystadegau yn ôl:
(a) Blwyddyn
(b) Math o drosedd – trais neu drosedd rhywiol arall
(c) Sawl dioddefydd a nodwyd ar gyfer pob trosedd (os oes mwy nag 1)
(ch) Pa un ai a oedd y drwgdybyn/drwgybiedigion yn oedolyn/oedolion neu’n blentyn/plant (os yw’n hysbys)
(d) Pa un ai a oedd y dioddefydd/dioddefwyr yn oedolyn/oedolion neu’n blentyn/plant
(dd) Y math o ysgol lle digwyddodd y digwyddiad (ysgol gynradd, ysgol uwchradd ac ati…).
D.S: Mewn rhai achosion, gwerthfawrogaf na fydd yr union leoliad (neu gategori’r lleoliad) o reidrwydd wedi’i gynnwys ar y cofnodion. Fodd bynnag, er mwyn osgoi amheuaeth, mae’r cais Rhyddid Gwybodaeth hwn ond yn ymwneud â’r troseddau hynny sydd wedi’u cofnodi/tagio fel rhai sydd wedi digwydd mewn ysgol yn benodol.
Ymateb a:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2022: Cofnodwyd 67 achos mewn perthynas â thrais/troseddau rhywiol eraill mewn ysgol
2023: Cofnodwyd 59 achos mewn perthynas â thrais/troseddau rhywiol eraill mewn ysgol
2024: Cofnodwyd 61 achos mewn perthynas â thrais/troseddau rhywiol eraill mewn ysgol hyd at a chan gynnwys 31 Awst 2024
Ymateb b:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2022: 5 achos o drais a 62 trosedd rhywiol arall
2023: 4 achos o drais a 55 trosedd rhywiol arall
2024: 0 achos o drais a 61 trosedd rhywiol arall
Ymateb c:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2022: 1 dioddefydd fesul achos
2023: 1 dioddefydd fesul achos
2024:1 dioddefydd fesul achos
Ymateb ch:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2022: Oedolyn 7, Plentyn 43, Gwag 17
2023: Oedolyn 10, Plentyn 33, Gwag 16
2024: Oedolyn 5, Plentyn 39, Gwag 17
Ymateb d:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2022: Oedolyn 1, Plentyn 55, Gwag 11
2023: Oedolyn 2, Plentyn 52, Gwag 5
2024: Oedolyn 7, Plentyn 47, Gwag 7
Ymateb dd:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2022 o’r 67 trosedd, roedd 53 mewn ysgol uwchradd ac 14 mewn ysgol gynradd.
2023 o’r 59 trosedd, roedd 50 mewn ysgol uwchradd a 9 mewn ysgol gynradd.
2024 o’r 61 trosedd, roedd 49 mewn ysgol uwchradd a 12 mewn ysgol gynradd.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o'r fath, y gallai'r wybodaeth a ddarperir fod yn gywir neu beidio.
Mae’n ofynnol fel mater o drefn i Heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddu i gyrff llywodraethol a bod y meini prawf cofnodi wedi'u pennu'n genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir i gofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, ac nid yw'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n lleol i gipio'r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr Heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 05/09/2024)