Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 603/2024
Cais:
1a. Os felly, faint o swyddogion PLOD sydd gan eich heddlu?
1b. Pa gymwysterau Iaith Arwyddion Prydain sydd gan y swyddogion PLOD hynny?
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nid oes gan yr heddlu Gynllun Swyddog Cyswllt yr Heddlu ar gyfer Pobl Fyddar. Fodd bynnag, mae gan yr heddlu rai Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu/swyddogion sy’n gallu cyfathrebu ag aelodau o’r cyhoedd sy’n fyddar trwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain. Nid oes gan yr heddlu swyddogion PLOD ond mae Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu/swyddogion sy’n gallu cyfathrebu drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain.
Gall 16 swyddog gyfathrebu trwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain ar wahanol lefelau.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nid oes gan yr heddlu swyddogion PLOD ond gall rhai Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu/swyddogion/staff gyfathrebu ag aelod byddar o’r cyhoedd trwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain.
Mae cyfanswm o 16 yn gymwys.
Wedi’u dadansoddi fel a ganlyn:
Derbyniad cyntaf:
Gall 8/8 cyfathrebu yn Iaith Arwyddion Prydain i safon lefel 1 (nid ydynt wedi sefyll arholiad)
Mae gan 7/8 gymwysterau Iaith Arwyddion Prydain lefel 2 a 3
Mae gan 1/8 gymhwyster Iaith Arwyddion Prydain lefel 4
Mae 2/8 yn gweithio tuag at lefel 4
Mae 3/8 yn gweithio tuag at lefel 6
Ail dderbyniad:
Gall 8/8 cyfathrebu i safon lefel 1 (nid ydynt wedi sefyll arholiad)
Mae 7/8 yn gymwys i safon lefel 2
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Yn 2015 – derbyniodd 37 o swyddogion plismona bro hyfforddiant ynghylch ymwybyddiaeth o fod yn fyddar.
Mae gennym 19 o swyddogion a staff sydd wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Fe wnaethom ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer chwe chyfweliad ag unigolion a ddrwgdybir.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 17 Mehefin 2024)