Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 567/2024
Cais:
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2019: Collwyd 5,277 o ddiwrnodau oherwydd anhwylderau seicolegol
2020: Collwyd 6,505 o ddiwrnodau oherwydd anhwylderau seicolegol
2021: Collwyd 8,080 o ddiwrnodau oherwydd anhwylderau seicolegol
2022: Collwyd 7,562 o ddiwrnodau oherwydd anhwylderau seicolegol
2023: Collwyd 8,075 o ddiwrnodau oherwydd anhwylderau seicolegol
Sylwer bod nifer y swyddogion heddlu wedi cynyddu yn ystod y cyfnod adrodd ac mai’r ffordd y cafodd yr absenoldebau eu categoreiddio pan gofnodwyd hwy ar y system sy’n pennu’r ffigurau hyn.Rydym yn ymwybodol y gallai absenoldebau fod wedi’u categoreiddio’n wahanol i ddechrau; er enghraifft, o dan yr adran Amrywiol, ond y gwyddys yn ddiweddarach eu bod yn datblygu i fod yn gysylltiedig â straen.
Sylwer bod y categori anhwylderau seicolegol o fewn y system rheoli salwch yn cynnwys absenoldebau salwch am y rhesymau canlynol:
|
P000 Anhwylderau seicolegol – straen, iselder, iechyd meddwl a syndromau blinder |
|||
|
Adwaith acíwt i straen Dibyniaeth Alcoholiaeth Clefyd Alzheimer Anhwylderau gorbryder Asthenia Profedigaeth Anhwylder deubegwn Gorludded Dibyniaeth gemegol Llesgedd Anhwylder rhithdybiol Dementia Iselder Absenoldeb cysylltiedig ag alcohol neu gyffuriau |
Camddefnyddio cyffuriau Anhwylderau bwyta (anorecsia nerfosa a bwlimia nerfosa) Lludded Blinder Ffibromyalgia Adwaith galar Hypomania Insomnia Syrthni Iselder manig / deubegwn Enseffalomyelitis myalgig (ME) Anhwylder hwyliau |
Chwaliad nerfol enseffalomyelitis myalgig Gwendid nerfus Anhwylder nerfol Niwrasthenia Niwrosis Niwrotiaeth Anhwylder obsesiynol-gorfodaethol Pyliau o banig Anhwylder panig Paranoia Problemau personol Anhwylder personoliaeth
|
Ffobiâu Iselder ôl-enedigol Adwaith straen wedi trawma Blinder ôl-feirysol Syndrom ôl-feirysol Anhwylder straen wedi trawma Seicosis Anhwylder straen wedi trawma Problemau perthynas Sgitsoffrenia Hunan-niweidio Problemau cysgu Straen |
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, gan nad yw’r data y gofynnwyd amdanynt yn cael eu cofnodi mewn fformat o’r fath.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 17 Mehefin 2024)