Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 441/2024
Cais 1 - 4:
- faint o unigolion sydd wedi torri amodau eu trwydded?
- faint o unigolion a dorrodd amodau’r gorchymyn atal troseddau difrifol ei hun?
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth gan Heddlu Dyfed-Powys oherwydd mai’r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, ac nid yr heddlu, sy’n gwneud cais am orchmynion atal troseddau difrifol.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2014 = 1 x gorchymyn atal troseddau difrifol
2018 = 5 x gorchymyn atal troseddau difrifol
2022 = 1 x gorchymyn atal troseddau difrifol
Mae achos 2014, ac un achos 2018 a 2022 yn ymwneud â'r un unigolyn.
Rhyddhau i'r gymuned:
2020 x 1
2021 x 1
2022 x 1
2023 x 1
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod mewn perthynas â thorri amodau.
Torri amod gorchymyn atal troseddau difrifol = 1
Sylwer: Mae'r Gwasanaethau Prawf yn gyfrifol am reoli unrhyw gyfnod o oruchwyliaeth trwydded ar ôl rhyddhau o'r ddalfa.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Mae cyfanswm o sero (0) testun gorchymyn atal troseddau difrifol wedi torri eu amodau ac wedi cael eu rhyddhau o’r gorchymyn atal troseddau difrifol.
Yn ogystal, ni all Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau na gwadu ei fod yn cadw unrhyw wybodaeth arall ynglŷn â chorff eithriedig gan nad yw’r ddyletswydd yn adran 1(1)(a) o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn berthnasol yn rhinwedd yr esemptiad canlynol:
Adran 23(5) Gwybodaeth a ddarperir gan, neu sy’n ymwneud â chyrff diogelwch penodol.
Mae adran 23 yn esemptiad absoliwt ar sail dosbarth ac nid oes unrhyw ofyniad i ystyried budd y cyhoedd yn yr achos hwn.
Byddai cadarnhau neu wadu bodolaeth gwybodaeth arall, neu a oes unrhyw wybodaeth arall yn cael ei gadw, yn mynd yn groes i’r cyfyngiadau a nodir yn adran 23 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, sef bod hyn yn pennu gwaharddiad cyffredinol ar ddatgelu unrhyw wybodaeth a ddefnyddir gan gyrff diogelwch penodol, neu sy’n ymwneud â hwy.
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol i heddluoedd y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau trosedd i gyrff y llywodraeth yn rheolaidd, a gosodir y meini prawf cofnodi yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn yn rhai generig, nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 5 Mehefin 2024)