Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 164/2024
Cais:
Unrhyw wybodaeth yn ymwneud â digwyddiad hedfan yn isel posibl ym mis Ionawr 1983 ger pentref Llanilar, Cymru. Deffrodd ffermwr lleol i ddarganfod gweddillion metelaidd a gweddillion eraill wedi’u gwasgaru dros ei dir. Roedd hyn cyn noswaith 2 Ionawr 1983, ac yn ôl pob tebyg wedi’i achosi gan awyren yn hedfan yn isel ac yn taro brigau coed ar dir y ffermwr ac yn gwasgaru’r deunydd hwn ar draws ei gae ac yn y goedwig gyfagos. Yn ôl y ffermwr ac adroddiadau lleol ni chwalodd yr un awyren, a dim ond y gweddillion hyn a oedd i’w cael. Hysbysodd y ffermwr yr heddlu lleol a chafodd y rhan fwyaf o’r gweddillion eu casglu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Hoffwn ofyn am yr wybodaeth ganlynol:
1: A oes gennych chi adroddiad ar y digwyddiad hwn o hyd, gan iddo gael ei adrodd i’r heddlu gan y ffermwr dan sylw? Os felly, hoffwn ofyn am gopi os gwelwch yn dda.
2: A allwch chi gadarnhau bod yr heddlu lleol wedi cynorthwyo wrth glirio’r gweddillion hyn?
3: A gawsoch chi wybodaeth am darddiad yr awyren dan sylw? Ai awyren sifil neu filwrol ydoedd?
Ymateb:
Gallaf gadarnhau nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, gan na ddaethpwyd o hyd i unrhyw ddogfennaeth yn ymwneud ag unrhyw ddigwyddiad tebyg i’r hyn y gofynnwyd amdano.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 11 Mehefin 2024)