Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 583/2024
Cais 1 - 3:
Eglurhad ar gyfer Cais 3.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Adroddwyd am ddau achos o weld/digwyddiadau UFO o fewn y cyfnod a nodwyd.
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Nid oes unrhyw ganlyniadau ar gael o’n chwiliad yn ystod y cyfnod a nodwyd.
Ymateb 3a:
Gallaf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw gan Heddlu Dyfed-Powys oherwydd nad oes prosesau penodol ar waith mewn perthynas ag unedau yn ymateb i ddigwyddiad yn ymwneud â gweithgareddau UFO.
Ymateb 3b:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Digwyddiad 1:
Daeth aelod o’r cyhoedd o hyd i wrthrych a oedd yn edrych fel hen fom, pan roedd yn egluro lleoliad yr eitem disgrifiodd sylfaen tyrbin gwynt sy’n edrych fel hen UFO. Aeth swyddog i’r lleoliad ond roedd y llanw wedi dod i mewn erbyn hynny felly nid oedd modd dod o hyd i’r gwrthrych.
Ni chymerwyd unrhyw gamau gweithredu, caewyd y digwyddiad.
Digwyddiad 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Galwad ffug bosibl. Mae’r cofnod yn dweud: “Rwyf newydd weld cwmwl yn yr awyr ond roedd yn symud, gallai fod wedi bod yn UFO. Es i’n ôl i fy fflat rhyw funud yn ddiweddarach, ac roedd wedi diflannu.”
Ni chymerwyd unrhyw gamau gweithredu, caewyd y digwyddiad.
Dylid nodi, o ganlyniad i'r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddhawyd fod yn gywir neu beidio.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 27 Mehefin 2024)