Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 426/2024
Cais:
Cwestiwn i geisio eglurhad – A ydych yn dymuno gwybod cyfanswm nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog, ac a gafodd gynnig amodol o ddirwy o £100 a thri phwynt wedi hynny? Os hoffech wybod nifer yr unigolion a gafodd eu dal yn goryrru gan fan cyflymder neu gamera sefydlog, byddai’r wybodaeth honno yn cael ei chadw gan y Bartneriaeth Camerâu Diogelwch ym Mhontypridd.
Tybed a allech chi fod yn fwy penodol? Wrth gyfeirio at leoliad, a ydych yn cyfeirio at y pedwar rhanbarth?
Ateb yn rhoi eglurhad – Ydw. I egluro, hoffwn wybod nifer yr unigolion a stopiwyd gan swyddog rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Mawrth 2024 ym mhob ardal yr ydych yn eu cwmpasu, a gafodd bryd hynny naill ai’r ddirwy a’r pwyntiau neu’r ‘sesiynau ymgysylltu cymunedol’ y gwn fod swyddogion wedi bod yn eu cynnig yn ôl disgresiwn fel rhan o Ymgyrch Ugain. Rwy’n edrych yn benodol am fwy o ddadansoddiad o’r math hwn o ddata ynghylch troseddau a dywedwyd wrthyf am fynd at yr heddluoedd unigol ar gyfer hyn. Rwy’n edrych am yr union leoliadau lle y digwyddodd y troseddau, yn cynnwys enw’r stryd, os yw’n bosibl.
Ymateb:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Yn ystod yr amserlen benodedig mae tri unigolyn wedi cael eu stopio gan swyddog a chawsant gynnig amodol o £100 a thri phwynt am oryrru ym mharth â therfyn cyflymder o 20mya. Y lleoliadau lle cafodd yr unigolion eu stopio yw:
Heol Llannon, Pontyberem, Sir Gaerfyrddin
Heol Dale, Hwlffordd, Sir Benfro
Heol Wallasey, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin
Yn ystod Ymgyrch Ugain ymgysylltwyd â’r nifer isod o yrwyr.
Dyddiadau Lleoliadau Cyfanswm y gyrwyr yr ymgysylltwyd â nhw
19 Chwefror 2024 Gorsaf Dân Rhydaman 39
21 Chwefror 2024 Gorsaf Dân Rhydaman 16
22 Chwefror 2024 Gorsaf Dân Llanelli 19
23 Chwefror 2024 Gorsaf Dân Caerfyrddin 41
26 Chwefror 2024 Gorsaf Dân Llandeilo 12
Mae gorfodaeth o ran y terfyn cyflymder o 20mya wedi’i chyflawni yn y lleoliadau isod rhwng mis Tachwedd 2023 a mis Mawrth 2024:
Lleoliad |
Dyddiad |
Nifer yr ymweliadau |
Nifer y cerbydau a oedd yn uwch na’r terfyn |
Ysgol Gynradd Drefach |
Dydd Gwener, 26 Ionawr 2024 |
1 |
5 |
B4332 |
Dydd Llun, 26 Chwefror 2024 |
1 |
0 |
Dylid nodi, o ganlyniad i’r systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ryddheir fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 3 Mehefin 2024)