Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 575/2024
Cais:-
Roeddwn yn gobeithio gofyn am unrhyw wybodaeth y gellir ei darparu gan gynnwys unrhyw ystadegau ynghylch troseddau rhyw plant yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin a’r heddlu. Nid wyf yn siŵr pa wybodaeth y caniateir ei darparu ond os gwelwch yn dda a all unrhyw beth yn ymwneud â throseddau rhyw plant yn yr heddlu gael ei darparu. Hefyd os gwelwch yn dda a yw’n bosibl darparu’r wybodaeth mewn blynyddoedd calendr ac yn cynnwys y dair blynedd diwethaf. Rwy’n ymchwilio ir risg, y bygythiad a pha mor aml mae troseddau rhyw plant yn digwydd i bennu faint o broblem sydd yn yr ardal, a hefyd unrhyw ffyrdd y gall yr heddlu helpu ac unrhyw fesurau a all leihau niwed.
Eglurhad a geisir:-
1. A ydych yn cyfeirio at droseddau rhyw gan blant neu yn erbyn plant?
2. A ydych yn cyfeirio at ddigwyddiadau neu droseddau? Sylwch fod digwyddiad yn wahanol i drosedd. Digwyddiad yw cofnod o gyswllt a wnaed â’r heddlu gan unigolyn/aelod o’r cyhoedd (fel arfer trwy alwad 999 neu 101), a throsedd yw pan fo’r trothwy wedi’i gyrraedd ac mae’r heddlu yn tybio bod trosedd wedi digwydd, fel y’i diffinnir gan y gyfraith.
3. A ydych yn gofyn am ffigurau ar wahân ar gyfer ardal Llanelli, Sir Gaerfyrddin ac ardal yr heddlu, allwch chi fod yn fwy penodol fel y gallwn ddarparu ymateb sy’n ystyrlon i chi?
Eglurhad a ddaeth i law:
Yr wyf yn cyfeirio at droseddau rhyw a gyflawnwyd yn erbyn plant. Nid oeddwn yn siŵr pa mor benodol y gallai’r ystadegau a ddarparwyd fod ond rwy’n gofyn am ffigurau ar wahân ar gyfer Llanelli a’r heddlu os yw’n bosibl gwneud hyn os gwelwch yn dda.
Ymateb:-
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:
|
Blwyddyn |
Heddlu |
Sir Gaerfyrddin |
Llanelli |
|
2021 |
747 |
230 |
108 |
|
2022 |
830 |
264 |
125 |
|
2023 |
694 |
246 |
100 |
|
2024 (hyd yn hyn) |
275 |
74 |
35 |
Holl blant a phobl ifanc o dan 18 oed sy’n ddioddefwyr troseddau rhyw
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ddarparwyd fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 14 Mehefin 2024)