Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 507/2024
Cais C1:-
O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gofynnaf am wybodaeth ynglŷn â nifer y swyddogion heddlu yn Heddlu Dyfed-Powys sy'n gallu cynnal ymchwiliadau i dwyll.
A fyddech cystal â rhoi manylion ynghylch ble y mae’r swyddogion hyn wedi’u lleoli.
Cais C2:-
O dan Ddeddf Ryddid Gwybodaeth gofynnaf am wybodaeth am unrhyw gytundeb cyfreithiol neu "femorandwm cyd-ddealltwriaeth" sydd gan Heddlu Dyfed-Powys gyda chynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:
Ymateb C1
Mae dau swyddog heddlu yn Heddlu Dyfed-Powys sydd wedi’u neilltuo i ymchwilio i dwyll, ac mae'r ddau ohonynt wedi'u lleoli ym mhencadlys yr heddlu.
Fodd bynnag, mae pob swyddog â gwarant yn gallu cynnal ymchwiliadau i dwyll.
Ymateb C2
Nid oes unrhyw gytundebau rhannu na memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng yr heddlu a chynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, ar gyfer ymchwiliadau i dwyll neu ddwyn o fewn y sefydliadau hyn.
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ddarparwyd fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylai ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau gael ei ddefnyddio at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 17 Mehefin 2024)