Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydych chi’n dal y wybodaeth ganlynol?
1. Mewn perthynas â’ch fflyd gyfan o gerbydau heddlu, a fyddech gystal â chadarnhau;
a. Pa bolisïau yswiriant cerbyd sydd gyda chi, os o gwbl
b. Pa fath o bolisi yswiriant ydyw (h.y. Hollgynhwysfawr neu Drydydd Parti)
c. Pa fath o ddifrod/colled a gynhwysir gan bob polisi
ch. Yn benodol, cadarnhewch pa un ai a oes unrhyw bolisi’n darparu ar gyfer iawndal a/neu unrhyw dâl ariannol arall ar gyfer anafiadau personol/colledion a brofir gan swyddogion heddlu sy’n gyrru cerbydau heddlu, sy’n cael eu hanafu yn ystod mesurau Erlid Tactegol a Chynnwys rhagataliol (gan gynnwys cysylltiad tactegol â cherbyd drwgdybyn, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) a weithredir ganddynt.
d. Yn benodol, cadarnhewch pa un ai a oes unrhyw bolisi’n darparu ar gyfer iawndal a/neu unrhyw dâl ariannol arall ar gyfer anafiadau personol/colledion a brofir gan swyddogion heddlu sy’n cael eu cludo fel teithiwr mewn cerbyd heddlu, sy’n cael eu hanafu yn ystod mesurau Erlid Tactegol a Chynnwys rhagataliol awdurdodedig (gan gynnwys cysylltiad tactegol â cherbyd drwgdybyn, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) a weithredir gan yrrwr eu cerbyd heddlu.
2.) A oes gennych unrhyw bolisïau yswiriant eraill (nad ydynt yn ymwneud â cherbydau) sy’n darparu ar gyfer iawndal a/neu unrhyw dâl ariannol arall am golledion/anafiadau personol a brofir gan swyddogion heddlu sy’n cael eu hanafu o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn 1ch. ac 1d. uchod? Os felly, rhowch fanylion y polisïau hynny a’r hyn maen nhw’n cynnwys.