Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bwriad y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig yw cynorthwyo Heddlu Dyfed-Powys i gadw swyddogion profiadol a medrus, sy’n gallu ymddeol ond sydd eisiau parhau i weithio. Mae’r polisi hwn wedi’i fwriadu i gynorthwyo swyddogion sy’n gymwys i ymddeol drwy roi’r dewis iddynt ymddeol, derbyn eu cyfandaliad (cymudiad) a dychwelyd i’r Heddlu.
Bydd y polisi hwn yn cynorthwyo’r sefydliad i sicrhau bod ganddo’r swyddogion profiadol a medrus sydd angen i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau Dyfed a Phowys.
Nid yw’r polisi hwn wedi’i fwriadu i ddisodli cynllunio effeithiol ar gyfer olyniaeth ac nid y bwriad yw ei ddefnyddio ar gyfer swyddogion sy’n ymddeol mewn rolau y gellir eu llenwi’n hawdd.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr amser llawn, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol neu dros dro.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob swyddog heddlu sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd hyd at reng Dirprwy Brif Gwnstabl sy’n gallu ymddeol ac sy’n gallu cael mynediad i’w buddion pensiwn.
Mae Prif Swyddogion hefyd yn cadw’r hawl i ddefnyddio disgresiwn i ystyried swyddogion sydd eisoes wedi ymddeol, pe bai angen busnes allweddol yn codi.
Ystyrir pob achos yn ôl ei amgylchiadau a’i rinweddau ei hun. Mae’r rhagdybiaeth gyffredinol tuag at gymeradwyaeth i gadw sgiliau, gwybodaeth a phrofiad.
Rhaid i’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer ymgeiswyr ar gyfer ymddeol ac ail-ymgysylltu fod yn: -
Nid yw’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer cyn swyddogion sydd eisiau ailymuno ond a ymddeolodd dros 12 mis yn ôl. Yn hytrach, bydd y Polisi Recriwtio a Dethol yn berthnasol ar eu cyfer nhw
Cyflwynir y polisi hwn yn dilyn cyhoeddi Nodyn 8 (Canllawiau ar gyfer Ymddeol ac Ailymuno) Canllawiau Tîm Gwobrwyo Cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a gyhoeddwyd i gefnogi heddluoedd i ffurfio polisïau lleol yn dilyn nifer o ddatblygiadau, gan gynnwys:
Dylid darllen y ddogfen bolisi hon ar y cyd â’r ddogfen weithdrefn Ymddeol ac Ailymuno, a’r canlynol:-
Egwyddorion
Er mwyn cyflawni hyn, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn
Mae’r egwyddorion Cod Moeseg canlynol yn berthnasol i’r polisi hwn a'r weithdrefn.
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyflenwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei effeithiolrwydd, a cheisir adborth gan randdeiliaid allweddol a’r heddlu ehangach.
Bydd unrhyw adborth neu anfodlonrwydd â’r polisi’n cael ei gofnodi a’i drafod gyda pherchennog y polisi a bydd camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mawrth 2026