Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn defnyddio Asesiadau Effaith Diogelu Data yn Heddlu Dyfed-Powys, fel proses i'n helpu i nodi ac i leihau risgiau diogelu data prosiect, yn enwedig ar gyfer prosesu sy'n debygol o arwain at risg uchel i unigolion.
Er mwyn asesu lefel y risg, mae rhaid i ni ystyried tebygolrwydd a difrifoldeb unrhyw effaith ar unigolion. Mae hefyd yn arfer da i gynnal Asesiadau Effaith Diogelu Data os bydd newid i natur, cwmpas neu ddibenion ein prosesu; mae hwn yn aml yn ofyniad diogelu data gorfodol.
Gweler isod am grynodebau o'n Hasesiadau Effaith Diogelu Data.
Teitl y Prosiect:
IKEN: System Rheoli Achosion
Crynodeb:
IKEN; cronfa ddata rheoli achosion cyfreithiol yn cael ei defnyddio yn Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Heddlu Dyfed-Powys.
Argymhelliad(au):
I sicrhau bod y rhai sy'n cael mynediad yn cael eu hatgoffa o'r angen i gwblhau hyfforddiant angenrheidiol o fewn cyfnodau amser penodol.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
03/11/2021
Teitl y Prosiect:
ARDAL
Crynodeb:
Yn gyffredinol, mae'r system ARDAL yn galluogi Swyddogion Heddlu a staff yr Heddlu i storio data, recordio rhyngweithiadau, digwyddiadau ac ymrwymiadau ledled yr Heddlu.
Mae'r deunydd a gesglir yn gyfyngedig i'r rhai sydd â phwrpas plismona ac mae mynediad wedi'i gyfyngu i'r rhai sydd ag angen.
Argymhelliad(au):
Amlinellwyd yr angenrheidrwydd a'r cymesuredd yn yr asesiad effaith diogelu data (DPIA) a drwy'r mesurau i leihau risg. Bydd hwn yn destun adolygiad i sicrhau cydymffurfiad.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
06/12/2021
Rhif cyfeirnod:
01/2025
Teitl y Prosiect:
Gweithredu Arf/Ap Ymgysylltu Cymunedol (Visav)
Crynodeb:
Er mwyn cyflenwi’r lefel o ymgysylltiad cymunedol y mae nifer o heddluoedd yn mwynhau, mae’r Heddlu angen y gallu i gael gwasanaeth negeseua targedig wedi’i deilwra drwy e-bost, recordiad llais, a negeseuon testun, gan gynnwys dewis Cymraeg ac ieithoedd eraill. Tra bod yr achos busnes yn cyfeirio at y datrysiad fel Arf Ymgysylltu Cymunedol, cydnabyddir bod angen mwy na system negeseua ar yr Heddlu, er mwyn sicrhau aliniad â’r gwasanaeth a gynigir gan heddluoedd eraill, gan gynnwys heddluoedd Cymru. Mae’r cynnig hwn yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion yr Arf Ymgysylltu Cymunedol hwnnw drwy restri’r gofynion a fydd yn diwallu anghenion cymunedau lleol.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
05/09/2025
Rhif cyfeirnod:
175/2025
Teitl y Prosiect:
Model Gweithredu’r Heddlu – Ymgynghoriad Gwerthuso Proses
Crynodeb:
Bydd Gwerthuso Proses yn cefnogi’r adolygiadau Model Gweithredu’r Heddlu drwy nifer o ddiwrnodau ymgynghori i ddeall y galw ar yr Heddlu a modelau adnoddau’n well.
Argymhelliad(au):
Nodir argymhellion o fewn yr Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data a gellir eu ceisio ar gais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
22/10/2025
Rhif cyfeirnod:
97/2025
Teitl y Prosiect:
Gwasanaeth Cymorth Dioddefwyr Ffyrdd
Crynodeb:
Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data hwn yn ymwneud â chymorth i’w roi i aelodau teulu sy’n galaru yn dilyn gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd difrifol. Bydd Swyddogion Cyswllt Teulu’n gofyn am ganiatâd teulu’r unigolyn cyn cael mynediad at e-ffurflen drwy god QR ar y rhyngrwyd allanol - mae’r ffurflen hon wedi’i chreu gan Gymorth i Ddioddefwyr a Chymorth i Ddioddefwyr fydd yn derbyn y ffurflen/gwybodaeth. Nid llinell gymorth yw’r ddarpariaeth gofal - gofal rheoli achos o’r diwrnod cyntaf ydyw cyhyd ag y bo ei angen (dros flwyddyn weithiau) cyn ymadawiad diogel. Darperir gofal drwy bennu gweithiwr achos penodol, hyfforddedig, cyflogedig i ddioddefydd.
Argymhelliad(au):
Argymhellion fel y’u darperir gan y Cynghorydd Diogelu Data a’r Swyddog Diogelu Data a gynhwysir o fewn corff yr Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data ac sydd ddim yn cael eu hailadrodd fan hyn.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
14/11/2025
Rhif cyfeirnod:
66/2025
Teitl y Prosiect:
Gwerthusiad o’r Uned Ymateb Rhithwir i Gam-drin Domestig
Crynodeb:
Bydd y gwerthusiad yn archwilio i’r ffordd mae’r Uned Ymateb Rhithwir i Gam-drin Domestig wedi’i gweithredu gan ddefnyddio data ar ddigwyddiadau cam-drin domestig a broseswyd gan yr uned, yn ogystal â digwyddiadau cam-drin domestig arall na chafodd eu trin ganddi i’w cymharu. Ceir gwybodaeth o systemau’r Heddlu.
Bydd peth data personol (codau post) yn cael ei ddatgelu fel rhan o’r broses hon. Mae’r sail gyfreithiol dros brosesu wedi’i chofnodi o fewn yr Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data a bydd Cytundeb Datgelu Data’n cael ei greu.
Disgwylir i’r gwerthusiad elwa’r Heddlu drwy dynnu sylw at bwyntiau ar gyfer gwella yn y dyfodol yn ogystal â nodi arfer da ac unrhyw fanteision/anfanteision o’r Uned Ymateb Rhithwir i Gam-drin Domestig mewn perthynas ag effeithiau gweithredol, yr ymateb i gam-drin domestig, a chyfiawnder troseddol. Y manteision i gymunedau fydd gwell dealltwriaeth o’r ffyrdd mae’r Uned Ymateb Rhithwir i Gam-drin Domestig yn cefnogi dioddefwyr mewn ardaloedd gwledig a siaradwyr Cymraeg.
Argymhelliad(au):
Ni ailadroddir argymhellion a ddarperir gan y Cynghorydd Diogelu Data a’r Swyddog Diogelu Data sydd wedi eu cynnwys yng nghorff yr Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data fan hyn.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
23/01/2026
Rhif cyfeirnod:
55/2024
Teitl y Prosiect:
Deall agweddau swyddogion Heddlu Dyfed-Powys tuag at blant sy’n gysylltiedig â llinellau cyffuriau
Crynodeb:
Datblygwyd y prosiect i ddeall agweddau swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn well mewn perthynas â phlant sy’n gysylltiedig â llinellau cyffuriau.
Mae pwyslais yr ymchwil ar ddealltwriaeth swyddogion drwy arolygon gwirfoddol, dienw a lenwir gan swyddogion sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, gyda mewnwelediad eilaidd yn cael ei ddarparu gan ddata ystadegol ar ffurf ddienw (sydd eisoes wedi’i gynhyrchu a’i adrodd gan yr Heddlu). Cynhelir ymchwil ychwanegol drwy gyfweliadau gwirfoddol gyda swyddogion sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd. Gellir cynnal y cyfweliadau hyn yn ddienw.
Argymhelliad(au):
Fel sy’n cael ei gynnwys o fewn yr Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data a’i ddarparu gan y Cynghorydd Diogelu Data a’r Swyddog Diogelu Data.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
19/01/2026
Rhif cyfeirnod:
158/2025
Teitl y Prosiect:
Gwerthusiad o ddatrysiad Tu Allan i’r Llys
Crynodeb:
Comisiynu ymchwil i werthuso darpariaeth gwasanaeth yw’r prosiect hwn, a fydd yn cael ei gyflawni gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd yn gwerthuso effeithiolrwydd dargyfeirio ar gyfer y grŵp oed 18-29, gan gynnwys ystyried pa un ai a yw dargyfeirio’n gweithio ar gyfer oedolion sy’n troseddu. Yr amcanion cyffredinol a’r cwestiwn ymchwil yw archwilio i effaith canlyniadau dargyfeiriol ar amlder a dyfalwch troseddu a nodi pa un ai a yw offrymau dargyfeiriol presennol yn effeithiol.
Bydd gweithdrefnau a darpariaethau presennol yn cael eu gwerthuso â’r bwriad o wella systemau i gynorthwyo unigolion yn well a thorri’r cylch troseddu.
Disgwylir y byddai hyn yn elwa’r unigolion sy’n dod dan y cynllun dargyfeirio, yn ogystal â’r gymuned ehangach os dangosir bod y cynllun dargyfeiriol yn lleihau troseddu. Os nad yw’n dangos hyn, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gallu adolygu’r Gwasanaeth ac edrych am ddatrysiadau mwy effeithiol.
Mae’r sail gyfreithiol dros brosesu wedi’i nodi.
Argymhelliad(au):
Argymhellion fel y’u darparwyd gan yr Ymgynghorydd Diogelu Data a’r Swyddog Diogelu Data sydd wedi’u cynnwys yng nghorff yr asesiad o’r effaith ar ddiogelu data ac sydd ddim yn cael eu hailadrodd fan hyn.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
18/02/2026
Rhif Cyfeirnod:
221/2025
Teitl y Prosiect:
Gwasanaethau Cyfreithiol – System Rheoli Dogfennau
Crynodeb:
Mae’r asesiad hwn o’r effaith ar gydraddoldeb wedi’i baratoi o ganlyniad i newid proses o’r system bresennol i’r defnydd o Gwmwl ar gyfer system rheoli dogfennau a ddarperir drwy wasanaethau Prosesydd Data a ddefnyddir gan Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yr Heddlu.
Cydnabyddir bod y defnydd o system o’r fath yn cyflwyno manteisio ac arbedion effeithlonrwydd o’i chymharu â’r defnydd o system bapur.
Mae adolygiad diogelu data trylwyr wedi’i gynnal o’r asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb.
Argymhelliad/Argymhellion:
Mae argymhellion fel y’u darparwyd gan yr Ymgynghorydd Diogelu Data a’r Swyddog Diogelu Data sydd wedi’u cynnwys yng nghorff yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ac nid ydynt yn cael eu hailadrodd fan hyn.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
06/04/2026
Rhif Cyfeirnod:
157/2025
Teitl y Prosiect:
Prosiect Momentau Cyraeddadwy
Crynodeb:
Mae’r Heddlu wedi ymrwymo i ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn o fewn plismona. Mae’r fenter hon yn dangos y pwysigrwydd a roddir ar gefnogi plant, gan sicrhau ymagwedd bartneriaeth a cheisio lleihau’r trawma a achosir i blentyn drwy fod yn y ddalfa.
Bydd yn edrych ar gefnogi plant a theuluoedd o fewn y gymuned er mwyn ceisio atal cylchoedd troseddu. Mae’r fenter hon yn cefnogi’r ymagwedd blismona sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
Disgwylir mai un o fanteision y broses hon fydd atal troseddu pellach, a fydd yn lleihau nifer y plant sy’n cael eu cymryd i’r ddalfa, a thrwy hynny, lleihau’r perygl a gyflwynir yn y ddalfa.
Argymhelliad(au):
Mae argymhellion fel y’u darparwyd gan y Swyddog Diogelu Data sydd wedi’u cynnwys yng nghorff yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ac nid ydynt yn cael eu hailadrodd fan hyn.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
18/12/2025
Rhif cyfeirnod:
41/2024
Teitl y Prosiect:
Unigolion coll Llamau
Crynodeb:
Sefydliad elusennol yw Llamau sydd wedi’i gomisiynu gan Heddlu Dyfed-Powys i ddarparu cymorth arbenigol i blant a phobl ifainc (iau na 18 oed) ar draws yr ardal heddlu. Mae Llamau’n gweithio ochr yn ochr â swyddogion er mwyn ceisio lleihau’r peryglon i blant sydd ar goll, a cheisio’u hatal rhag mynd ar goll yn y dyfodol.
Mae rhai o amcanion allweddol y gwasanaeth yn cynnwys y canlynol:
Mae’r broses hon yn gofyn bod data personol yn cael ei rannu rhwng Heddlu Dyfed-Powys a Llamau, a chaiff hyn ei gwmpasu gan y Protocol Rhannu Gwybodaeth. Nodir y sail gyfreithiol dros rannu data personol o fewn yr asesiad hwn o’r effaith ar ddiogelu data a’r Protocol Rhannu Gwybodaeth.
Argymhelliad(au):
Mae argymhellion fel y’u darparwyd gan y Cynghorydd Diogelu Data a’r Swyddog Diogelu Data sydd wedi’u cynnwys yng nghorff yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ac nid ydynt yn cael eu hailadrodd fan hyn.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
26/03/2026
Rhif cyfeirnod:
199/2025
Teitl y Prosiect:
Prosiect Minerva – mapio
Crynodeb:
Bydd y prosiect yn dyblygu ymagwedd ymchwil bresennol, sy’n cael ei hystyried yn arfer gorau gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu fel datrysiad sy’n seiliedig ar ddata ar gyfer lleihau Trais yn Erbyn Menywod a Merched. Bydd yr ymchwil yn defnyddio data i ddeall patrymau gofodol ac amseryddol a sbardunwyr Trais yn Erbyn Menywod a Merched. Bydd y mapio hwn yn rhoi mewnwelediadau newydd i ble a phryd mae Trais yn Erbyn Menywod a Merched yn digwydd yn ardal Dyfed-Powys i hysbysu’r ffordd y gweithredir ymyriadau wedi hynny.
Argymhelliad(au):
Fel y nodwyd o fewn yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, nid ydynt yn cael eu hailadrodd fan hyn.
Paratowyd y crynodeb hwn ar:
15/04/2026
Cyfeirnod:
32/2024
Teitl y prosiect:
Presenoldeb y cyfryngau wrth i’r heddlu weithredu gwarantau
Crynodeb:
Mae mynd â’r cyfryngau ar weithrediadau’r heddlu, megis gweithredu gwarantau chwilio, yn ymarfer cyffredin ar draws plismona, sy’n helpu’r cyfryngau i hysbysu’r cyhoedd am waith yr heddlu ac i fod yn agored a thryloyw am y gwasanaeth heddlu. Mae Arferion Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar gysylltiadau â'r cyfryngau yn darparu canllawiau ar yr ymarfer hwn.
Gall gweld gweithgareddau’r heddlu gynyddu hyder y cyhoedd bod yr heddlu’n mynd i’r afael â throseddau. Mae hefyd yn bosibl, drwy rannu rhagor o wybodaeth am weithgareddau o’r fath, y gallai rhaglenni weithredu fel ataliad i’r bobl hynny sy’n debygol o gyflawni troseddau.
Mae’r Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data yn nodi’r risgiau sy’n gysylltiedig â hyn ond hefyd y camau lliniaru i leihau’r risg.
Argymhelliad (argymhellion):
Mae argymhellion fel y’u darparwyd gan y Cynghorydd Diogelu Data a’r Swyddog Diogelu Data wedi’u cynnwys yng nghorff yr Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data ac ni chânt eu hailadrodd yma.
Dyddiad paratoi’r grynodeb:
4 Mehefin 2026