Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn 2016, cydnabuwyd nad oedd gan yr Heddlu’r adnoddau eto i gefnogi gweithwyr trawsryweddol. Gan hynny, roedd angen edrych ar sut y gall addysgu a pharatoi’r gweithlu a’r gweithle ar gyfer hyn. Hefyd, roedd angen sicrhau bod yr Heddlu’n darparu lefel gwasanaeth uchel i aelodau drawsryweddol y gymuned, a’r rhai sydd yn adnabod eu hunain yn rhywiau anneuaidd.
Sefydlwyd y Gweithgor Hunaniaeth o ran Rhywedd yn fewnol er mwyn mynd i’r afael â hyn ac ystyried amryw o faterion, gan gynnwys arferion Adnoddau Dynol, polisïau a gweithdrefnau mewnol ac allanol, casglu data rhyw ar wahanol ffurfiau a systemau, yn ogystal â chanllawiau a hyfforddiant sydd ar gael, er mwyn ennyn gwell dealltwriaeth o sefyllfa bresennol yr heddlu. Cadeiriwyd y grŵp hwn gan Hyrwyddwr Hunaniaeth o ran Rhywedd yr Heddlu, ac roedd penaethiaid adran perthnasol yn bresennol yng nghyfarfodydd y grŵp. Yn ogystal â chynnal adolygiadau mewnol, ymgysylltodd y grŵp â’r gymuned drawsryweddol er mwyn adeiladu perthnasau a deall anghenion a phrofiadau aelodau o’r gymuned honno’n well. Gofynnwyd am wybodaeth ac arweiniad gan gyrff eraill fel Stonewall er mwyn sicrhau bod unrhyw argymhellion a roddir o flaen y Bwrdd Cofleidio Amrywiaeth (cyfarfod Cydraddoldebau Strategol yr Heddlu) yn wybodus ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Ymhellach i’r gwaith a gyflawnwyd gan y Gweithgor Hunaniaeth o ran Rhywedd, cyflwynwyd anghymhellion i’r Bwrdd Cofleidio Amrywiaeth eu hystyried. Roedd y gweithgor yn ystyried bod yr argymhellion hyn yn ofynnol ar gyfer gwneud cynnydd o ran dod yn wasanaeth ac yn gyflogwr mwy trawsgyfeillgar. Mae copi o’r adroddiad sydd yn cynnwys yr Argymhellion ar gael i’w ddarllen yma.
Derbyniwyd yr argymhellion hynny gan y Bwrdd Cofleidio Amrywiaeth, ac awdurdodwyd cynllun cyflenwi ar gyfer eu cyflawni gan y Prif Gwnstabl.
Diweddariad: Mae pob prosiect adnewyddu a datblygiad newydd yn gweithredu cyfleusterau niwtral o ran rhyw lle bo’n ymarferol. Cytunwyd ar arwyddion safonol a’u gosod.
Diweddariad: Mae holl gelloedd Dyfed-Powys yn niwtral o ran rhyw.
Diweddariad: Mae’r polisi wedi’i adolygu a’i ddiweddaru’n unol â hynny gan berchennog y polisi.
Diweddariad: Mae Strategaeth Gweithredu Cadarnhaol newydd yr Heddlu wedi’i hysgrifennu ac yn disgwyl cymeradwyaeth derfynol.
Diweddariad: Gwnaed diwygiadau i’r gwaith papur ar gyfer dechreuwyr newydd er mwyn caniatáu i bob unigolyn nodi pa un ai a oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arno mewn perthynas â’i hunaniaeth o ran rhywedd
Diweddariad: Cynhaliwyd diwrnod gloywi LHDT+ ym mis Gorffennaf. Bydd cymorthfeydd ac ymgysylltu cymunedol yn eitem agenda a bydd cyfle i drafod arfer gorau ac unrhyw rwystrau. Gofynnwyd i swyddogion nodi eu hymgysylltiad yn fewnol a diweddaru’r wefan â dyddiadau ymgysylltu/cymorthfeydd sydd i ddod.
Diweddariad: Mae tudalen wrthi’n cael ei chreu ar gyfer y fewnrwyd a fydd yn bwydo i mewn i’r wefan. Gobeithir ei lansio ym mis Gorffennaf yn ystod tymor Balchder.
Diweddariad: Yn 2017, rhoddodd cadeirydd y Rhwydwaith Cymorth LHDT+ ar y pryd gyflwyniad i staff yr adran Gwasanaethau Pobl am wahanol agweddau hunaniaeth/amrywiaeth o ran rhywedd. Teimlai pawb ei fod yn ddefnyddiol. Mae fideo ymwybyddiaeth mewnol hefyd ar gael.
Diweddariad: Derbyniodd staff dalfeydd hyfforddiant arbenigol ynghylch trawsrywedd yn ystod hyfforddiant gloywi mewn perthynas â dalfeydd ym mis Ionawr, mis Chwefror, mis Mawrth a mis Ebrill 2019. Mae aelodau staff dalfa newydd yn derbyn hyfforddiant mewn perthynas ag atodiad L PACE, sy’n cynnwys canllawiau ar gyfer carcharorion o’r fath.
Diweddariad: Yn ystod tymor y gwanwyn 2018, derbyniodd yr holl aelodau staff gyflwyniad hanner diwrnod gan In-Equality, a gafodd ymateb da. Mae Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu hefyd wedi ysgrifennu cyflwyniad gloywi ar gyfer aelodau staff, sy’n cynnwys fideo Ymwybyddiaeth Trawsrywedd.
Diweddariad: Mae holl aelodau staff yr Adran Safonau Proffesiynol wedi gwylio’r fideo Ymwybyddiaeth Trawsrywedd mewnol.
Diweddariad: Mae’r fideo Ymwybyddiaeth Trawsrywedd wedi’i gynnwys yn y matrics hyfforddi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Gan hynny, bydd y fideo’n cael ei rannu fel rhan o’r gwaith hwnnw ar draws yr heddlu.
Diweddariad: Mae dewisiadau o ran teitl a rhyw wedi’u diwygio ar y system iTrent.
Diweddariad: Adolygwyd a diweddarwyd yr adran ar wybodaeth sensitif yn 2019.
Diweddariad: Mae polisïau AD yn niwtral o ran y rhywiau.
Diweddariad: Mae polisïau AD yn niwtral o ran y rhywiau.
Diweddariad: Unwaith y bydd y cynllun gweithredu hwn wedi’i gwblhau ac rydym yn fodlon â chynnydd, byddwn yn rhoi diweddariad yn fewnol ac yn allanol.
Diweddariad: Gellir cysylltu hwn â cham gweithredu 6. Trafodwyd yr argymhellion hyn fel rhan o ddiwrnod gloywi.
Os oes cwestiynau gyda chi am y gwaith hwn, neu os oes gyda chi awgrymiadau am argymhellion pellach y dylem eu hystyried fel Heddlu, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â’r Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Iaith Gymraeg ar e-bost.