Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan Gwnstabliaid sydd â sgiliau arbenigol yn arbennig ar gyfer swyddi gwag ledled yr ardal heddlu a swyddogion ymateb sy’n dymuno gweithio yng Ngheredigion,Sir Gaerfyrddin, Powys a Sir Benfro. O’r herwydd, gwahoddir ceisiadau ar gyfer:
Cwnstabliaid Ymateb - Ceredigion, Sir Benfro a Gogledd Powys
Dyddiad cychwyn: 1af Mehefin a 2ail Dachwedd 2027 pan fyddwch chi'n ymuno â ni am gwrs cynefino "Croeso i Heddlu Dyfed-Powys" am dair wythnos. Os nad ydych eisoes wedi gwneud yn eich heddlu presennol, bydd angen ichi lwyddo yn y Cwrs Gyrrwr Ymateb yn dilyn eich cwrs cynefino.
Pam Heddlu Dyfed Ni yw’r ardal heddlu fwyaf yng Nghymru a Lloegr yn ddaearyddol. Rydyn ni’n gyfrifol am 4,188 milltir sgwâr dros bedair sir Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Rydyn ni’n falch mai ni yw un o’r ardaloedd mwyaf diogel i fyw a gweithio yn y DU, a gellir dadlau mai hon yw’r ardal fwyaf deniadol hefyd.
Mae gan ardal Dyfed-Powys 350 milltir o arfordir godidog, gan gynnwys Barafundle – sydd wedi ei gydnabod fel traeth gorau’r byd fwy nag unwaith – mynyddoedd Bannau Brycheiniog sy’n ennyn edmygedd, a’r ddinas leiaf ym Mhrydain sydd ag eglwys gadeiriol, Tyddewi yn Sir Benfro.
Dychmygwch dreulio’ch dyddiau gorffwys yn dysgu syrffio, yn archwilio dau neu dri o barciau cenedlaethol Cymru, yn chwilota mewn pyllau glan môr, neu’n edrych i lawr ar y byd o gopa Pen y Fan.
Efallai bod yr ardal yn hardd, ond mae’n rhanbarthau amrywiol yn cynnig eu heriau unigryw eu hunain – troseddau gwledig, troseddolrwydd trawsffin, a’r gofynion sy’n gysylltiedig â dau borthladd pwysig a phrif osodiadau egni. Mae’r arfordir maith, ardaloedd mynyddig eang a nifer y cymunedau arunig yn creu heriau o ran lleihau llwybrau troseddol posibl, ac mae’r cynnydd mawr o ran poblogaeth dros fisoedd yr haf wrth i dwristiaid heidio i’r ardal yn gwneud i’n trefi twristiaeth chwyddo, sydd ag oblygiadau ar gyfer timoedd plismona’r ffyrdd a throsedd.
Does dim rhaid eich bod chi’n medru siarad Cymraeg ar adeg trosglwyddo, fodd bynnag, gofynnwn i bob swyddog ac aelod staff fedru cyfathrebu hyd lefel 1 o fewn 6 mis ar ôl cael ei benodi i’r swydd. Rydyn ni’n cynnig nifer o gyfleoedd gwahanol ar gyfer cyflawni hyn; o wersi ar-lein i wersi wyneb yn wyneb.
Os nad ydyn ni’n agored ar hyn o bryd ar gyfer trosglwyddiadau ar eich rheng bresennol, cewch wneud cais i drosglwyddo ar reng is.
Mae croeso ichi drosglwyddo tra’ch bod chi ar seibiant gyrfa. Adolygir pob cais fesul achos.
Pan fyddwch chi’n trosglwyddo i HDP, yr ydym yn cynnig cwrs cynefino 3 wythnos o hyd ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin. Mae’n cael ei gyflwyno gan un o’n hyfforddwyr pwrpasol ac yn cynnwys cyflwyniadau megis Hyfforddiant Diogelwch Personol, hyfforddiant systemau ac ati, sydd wedi’u hanelu at eich helpu i gynefino â’ch swydd newydd fel swyddog heddlu gyda ni. Ni ellir cymryd gwyliau blynyddol yn ystod y cyfnod hyfforddi cychwynnol hwn o 3 wythnos.
Bydd unrhyw gymwysterau cenedlaethol, e.e. Fframwaith Dyrchafiadau Cenedlaethol yr Heddlu, yn cael eu cydnabod unwaith y byddwch chi wedi cyflwyno tystiolaeth o’ch canlyniad i’r tîm Recriwtio.
Edrychir ar gymwysterau eraill fesul achos a’u trosglwyddo gyda chi os yw’r sgìl / cymhwyster cyfwerth â’n safonau ni. Mewn rhai achosion, efallai bydd angen ailasesu’r sgìl.
Rhaid i’n holl swyddogion fyw o fewn awr neu 30 milltir o’r orsaf y maent wedi’u lleoli ynddi.
Yn ystod y cam cyn cyflogaeth, bydd angen ichi roi tystiolaeth o’r Prawf Ffitrwydd sy’n Gysylltiedig â’r Swydd diwethaf ichi gwblhau. Bydd angen i hyn fod o fewn dyddiad a rhaid eich bod chi wedi llwyddo yn y prawf yn ystod y 6 mis diwethaf er mwyn trosglwyddo. Os nad oes gennych Brawf Ffitrwydd sy’n Gysylltiedig â’r Swydd dilys, gallwn drefnu bod hwn yn cael ei gwblhau ym Mhencadlys yr Heddlu, Caerfyrddin.
Bydd. Bydd statws ariannol pob ymgeisydd yn cael ei wirio yn ystod y broses recriwtio. Mae’r Prif Gwnstabl yn cadw’r hawl i wrthod ymgeisydd ar unrhyw adeg yn y broses recriwtio, heb ddatgelu’r rhesymau dros wrthod.
Oes – byddwn ni’n cwblhau proses gwiriadau fetio llawn – mae’n rhaid inni gynnal gwiriadau fetio trylwyr ar bob ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallant ymuno â Heddlu Dyfed-Powys, ni waeth ble maen nhw’n gweithio ar hyn o bryd. Gan hynny, mae’n RHAID i ymgeiswyr ddatgan:
Byddwn ni’n cysylltu â’ch Adran AD a’ch Uned Safonau Proffesiynol os fyddwch chi wedi llwyddo yn y cyfweliad.
Cydnabyddir unrhyw wasanaeth presennol neu flaenorol ar gyfer dibenion gwyliau blynyddol, a byddwch chi’n derbyn hawl pro-rata ar ôl trosglwyddo. Disgwylir ichi gymryd yr holl wyliau y mae gennych hawl i’w cael yn eich heddlu presennol gan na fydd yn bosibl trosglwyddo gwyliau sy’n ddyledus.
Yn ogystal, ni ellir trosglwyddo amser i ffwrdd yn lle’r amser a weithiwyd.
Gwneir pob ymdrech i anrhydeddu unrhyw drefniadau o ran amser i ffwrdd/gwyliau sydd wedi’u trefnu eisoes, ond yn y pen draw, bydd hyn yn ôl disgresiwn eich rheolwr llinell newydd yn Heddlu Dyfed-Powys.
Bydd eich cyflog yn unol â’r cyfraddau cenedlaethol ar gyfer eich rheng a’ch gwasanaeth. Byddwch chi’n trosglwyddo ar yr un pwynt cyflog a dyddiad cynyddiad rydych chi’n derbyn ar hyn o bryd, ar yr amod na fu unrhyw doriad mewn gwasanaeth.
Telir cyflogau yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a byddwch chi’n cael eich talu ar ddiwrnod olaf y mis, heblaw bod y diwrnod hwnnw ar benwythnos, dydd Llun neu ddydd Mawrth.
Fel arfer, gellir trosglwyddo eich gwasanaeth pensiynadwy’n uniongyrchol o un Heddlu i un arall. Gan hynny, mae eich pensiwn yn trosglwyddo gyda chi. Ar yr amod nad oes bwlch yn eich gwasanaeth, bydd eich trosglwyddiad dal yn wasanaeth parhaus.
Ni ddylech ymddiswyddo o’ch Heddlu presennol hyd nes y byddwch wedi cwblhau holl agweddau’r broses ddethol a derbyn cadarnhad ysgrifenedig o ddyddiad cychwyn a lleoliad. Dylai’ch ymddiswyddiad fod yn effeithiol o hanner nos y diwrnod cyn eich dyddiad ar gyfer ymuno â Heddlu Dyfed-Powys. Bydd hyn yn sicrhau nad oes toriad mewn gwasanaeth a bod eich hawliau’n parhau.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am drosglwyddo Heddlu, cysylltwch â thîm recriwtio Heddlu Dyfed-Powys: