Diogelu Cymru - neges aml-asiantaeth diogelwch rhag tân yn yr awyr agored
Gyda'r tywydd cynnes, heulog a sych yr ydym wedi bod yn ei fwynhau'n ddiweddar, ac wrth i reolau'r cyfyngiadau ddechrau cael eu llacio yng Nghymru, mae'r neges wedi newid o “arhoswch gartref” i “arhoswch yn lleol”, sydd i'w weld yn gyfle perffaith i ddechrau mwynhau'r cefn gwlad a'r traethau gwych sydd gennym i'w cynnig.