Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gweithredu gwarantau chwilio ym maes carafanau Leighton Arches ac wedi gwneud nifer o arestiadau mewn cysylltiad ag amheuaeth o fasnachu cyffuriau Dosbarth A a reolir.
Dwedodd yr Uwcharolygydd Clark Jones-John: “Ar hyn o bryd, mae tri dyn (25, 19 a 32 oed) wedi eu harestio ar amheuaeth o fasnachu cyffuriau Dosbarth A a reolir, ac maent wedi eu cadw yn nalfa’r heddlu.
“Yn ystod ymgyrch arwyddocaol gan yr heddlu, fe wnaethom atafaelu swm o’r hyn a gredir sy’n gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B.
“Bydd swyddogion plismona bro yn ardal y Trallwng i roi sicrwydd i breswylwyr ym maes carafanau Leighton Arches a’r gymuned ehangach.
“Mae’r ymchwiliad hwn yn rhan o ymrwymiad Heddlu Dyfed-Powys i ostwng y bygythiad a’r niwed difrifol y mae cyffuriau Dosbarth A yn ei beri i unigolion ac i’n cymunedau yn eu cyfanrwydd.”
Anogir unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon ynghylch gweithgarwch troseddol yn ymwneud â chyffuriau i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys naill ai arlein ar https://bit.ly/DPPContactOnline, drwy anfon ebost at [email protected], neu drwy ffonio 101. Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru’n ddienw drwy ffonio 0800 555111, neu drwy fynd at crimestoppers-uk.org.