Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyflawnodd Heddlu Dyfed-Powys warantau chwilio ym maes carafanau Leighton Arches, lle arestiwyd tri o bobl.
Roedd hyd at 80 o swyddogion yn rhan o’r ymgyrch. Yn ystod yr ymgyrch atafaelwyd sylweddau y credir eu bod yn gyffuriau dosbarth A a dosbarth B.
Arestiwyd un dyn arall heddiw (Mehefin 22), ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cocên, mewn cysylltiad gyda’r ymchwiliad. Mae’r dyn 24 oed yn cael ei gadw yn nalfa’r heddlu.
Mae Michael Power, 19 oed, a John Paul Power, 25 oed, nawr wedi eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis. Mae Patrick David Stokes, 32 oed, wedi ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên. Mae’r dynion wedi eu cadw ar remand yn nalfa’r heddlu.
Meddai’r Ditectif Arolygydd Richard Lewis: “Roedd hwn yn ymgyrch arwyddocaol fel rhan o’n hymrwymiad i ddileu’r risg a achosir gan sylweddau anghyfreithlon yn ein cymunedau.
“Mae ein hymchwiliadau’n parhau, a byddwn yn rhoi diweddariadau pan fydd hynny’n briodol.”
Anogir unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon ynghylch gweithgarwch troseddol yn ymwneud â chyffuriau i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys naill ai arlein ar https://bit.ly/DPPContactOnline, drwy anfon ebost at [email protected], neu drwy ffonio 101.
Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru’n ddienw drwy ffonio 0800 555111, neu drwy fynd at crimestoppers-uk.org.