Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:32 25/05/2021
Mae ein tîm o 86 Cwnstabliaid Gwirfoddol yn gweithio ochr yn ochr â’n swyddogion cyflogedig ledled yr heddlu, gan ymdrin â digwyddiadau sy’n amrywio o wrthdrawiadau ac ymosodiadau i chwilio am unigolion coll ac ymateb i ddigwyddiadau domestig.
Yr unig wahaniaeth yw eu bod nhw’n rhoi eu hamser fel gwirfoddolwyr.
Mae rhai’n anelu i wneud gwahaniaeth i’w cymuned neu gyflawni her bersonol, ac mae eraill yn gwireddu uchelgais oes o ymuno â’r heddlu. Beth bynnag yw eu stori, mae’r holl wirfoddolwr yn dod â’u sgiliau eu hun i Heddlu Dyfed-Powys, gan gryfhau’r heddlu a’r gwasanaeth mae’n darparu.
Os ydych chi byth wedi meddwl am ymuno, ond eisiau gwybod mwy, mae Dinasyddion Mewn Plismona’n cynnal noson flasu genedlaethol nos Lun 14 Mehefin. Cliciwch yma i gofrestru, a chadwch lygad am gyfleoedd recriwtio yn y dyfodol fan hyn.