Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, yr ydym yn dathlu llwyddiant Catherine Davies, Rheolwr Cynnyrch a Rhaglenni TGCh, a enillodd wobr Aelod Staff Heddlu’r Flwyddyn yn 2020.
Mae Catherine, sydd wedi bod yn aelod o Heddlu Dyfed-Powys ers bron ugain mlynedd, wedi’i chydnabod am ei hymrwymiad arbennig tuag at reoli nifer o brosiectau datrysiadau technolegol arwyddocaol sydd wedi cynorthwyo perfformiad gweithredol yr heddlu.
Diolch i ymdrechion gofalus Catherine a’i harbenigedd technolegol, bellach, mae gan holl swyddogion rheng flaen Heddlu Dyfed-Powys derfynellau data symudol a chamerâu corff, ac mae camerâu newydd wedi eu gosod mewn cerbydau ymateb arfog a thraffig .
Yn ôl y wefan ‘Women in Tech’, dim ond 19% o’r bobl mewn rolau technegol yn y DU sy’n fenywod.
Dywedodd Claire Parmenter, Prif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Dyfed-Powys, “Yr ydym yn falch iawn bod Catherine yn hyrwyddo swyddi gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ac yn ysbrydoli pobl eraill yn ei maes.
“Mae’r dechnoleg y mae Catherine wedi cyflwyno ar draws yr heddlu’n helpu swyddogion heddlu a SCCH i fod yn fwy effeithiol, atebol a gwybodus yn eu gwaith o gasglu cudd-wybodaeth ac amddiffyn y cyhoedd.”
Mae prosiectau Catherine yn aml yn rhedeg ar y cyd, sy’n golygu bod yn rhaid iddi gydbwyso ei chyfrifoldebau’n fanwl iawn, ac mae ei gwaith wedi arbed costau sylweddol i Heddlu Dyfed-Powys.
Er bod ei gwaith yn heriol, mae hi wedi’i chanmol am gyflenwi’n gyson hyd safon uchel, a dal dod o hyd i’r amser i helpu eraill.
Dywedodd ei chydweithiwr, Marie McAvoy: “Mae Catharine yn ysbrydoli ac yn ysgogi staff, ac mae hi bob amser yn barod i gynghori a chynorthwyo eraill â’r nod o’u datblygu fel unigolion, ac er budd ehangach Heddlu Dyfed-Powys.”
Dywedodd Catherine, a oedd wedi’i llethu gan yr arwydd a’r enwebiad a gyflwynwyd gan ei chydweithiwr: “Mae’n braf gwybod bod fy ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi gan gydweithwyr a bod y gwaith sy’n cael ei wneud ochr yn ochr â chyfrifoldebau personol yn cael ei gydnabod.”
Cyrhaeddodd Sharlene Watkins, Uwch Reolwr Gweithrediadau Fforensig yr Heddlu, a Charles Gill, Arbenigwr Technegol mewn Gwaith Fforensig ar Gyfrifiaduron, y rhestr fer ar gyfer y wobr Aelod Staff Heddlu’r Flwyddyn hefyd.
Fory, byddwn ni’n rhannu enillwyr Gwobr Tîm y Flwyddyn 2020.
NODDWYD GWOBR AELOD STAFF HEDDLU’R FLWYDDYN GAN | Unsain – undeb mwyaf y DU, sy’n gweithio o fewn y sector preifat a’r sector cyhoeddus, gan ddarparu gwasanaethau hollbwysig ar gyfer y cyhoedd.