Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
17:51 18/05/2021
"Mae ein teulu cyfan wedi torri’n calonnau ar ôl colled sydyn a thrasig Chris, a oedd yn dad, gŵr, mab a brawd annwyl. Roedd Chris yn meddwl y byd o bawb a oedd yn rhan o’i fywyd, ac roedd pawb yn meddwl y byd ohono yntau, yn enwedig ei ddwy ferch ifanc. Er mai ei deulu oedd yn mynd â’i fryd yn bennaf erioed, rydym yn hynod falch o'i lwyddiant ym myd chwaraeon, gan gynrychioli ei wlad mewn bowls mat byr ochr yn ochr â'i dad a'i frawd iau.
"Mae ein teulu’n ddiolchgar iawn am gefnogaeth ei ffrindiau ef a'n ffrindiau ninnau, yn Llanboidy lle’i magwyd ac yn ei gartref yng Nghlynderwen. Rydym nawr am gael amser i alaru a gofynnwn am gael preifatrwydd i wneud hynny."