Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi galwad gan yr elusen diwedd oes Marie Curie i gefnogi Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod 2022.
Diwrnod i gefnogi’r miliynau o bobl a ddioddefodd brofedigaeth yn ystod y pandemig ac adlewyrchu ar fywydau teulu, ffrindiau, cymdogion a chydweithwyr sydd wedi marw yw’r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod. Mae’r diwrnod yn amser i oedi, myfyrio, a chefnogi ein gilydd, ni waeth am ffydd neu ddiffyg ffydd.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Dr Richard Lewis: “Ar y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrio, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn oedi ac yn talu teyrnged i’r rhai sydd wedi colli eu bywydau oherwydd Covid ac achosion eraill yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon.
“Fel Prif Gwnstabl, yr wyf wedi gweld â’m llygaid fy hun sut mae ein cymunedau lleol wedi bod yn gefn mawr i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan alar. Mae gweithredoedd syml o garedigrwydd yn mynd ymhellach nag erioed o’r blaen, ac rydym yn cael ein tawelu gan dosturi a gobaith.
“Mae pobl dal yn brwydro, a bydd Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i gefnogi ein cymunedau drwy gydol yr amserau heriol hyn.
“Heddiw, ar y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrio, byddwn yn cynnal munud o dawelwch am hanner dydd i feddwl am y rhai a fu farw a chysylltu ag eraill sydd wedi dioddef profedigaeth. Nes ymlaen, byddwn ni’n ymuno ag eraill ledled y DU ac yn cynnau cannwyll i ddangos ein cefnogaeth tuag at yr achos ac ar gyfer y rhai sy’n methu bod gyda ni heddiw.”
Am ragor o wybodaeth ac er mwyn addo cymryd rhan yn Niwrnod Cenedlaethol o Fyfyrio 2022, galwch heibio i Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrio | Marie Curie.