Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:

Byw gan ofni eu partner, wedi’u hynysu oddi wrth eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac yn cael eu rheoli ym mhob agwedd o’u bywydau.
Hwn yw’r realiti ar gyfer nifer o bobl ledled ardal Dyfed-Powys sy’n byw gyda cham-drin domestig, stelcio ac aflonyddu – troseddau na sylwir arnynt yn rhy aml wrth i droseddwyr, a hyd yn oed dioddefwyr, wneud popeth o fewn eu gallu i guddio’r arwyddion.
Er y gall canlyniadau byw gyda cham-drin domestig fod yn ddinistriol, i lawer, gall canlyniadau codi llais ac adrodd am droseddau wrth yr heddlu ymddangos yn rhy fawr i’w goresgyn, gan arwain dioddefwyr i fyw mewn perthnasau sy’n parhau i ddirywio, a gydag ymddygiad camdriniol sy’n parhau i waethygu.
Gan gydnabod yr angen i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i bobl sy’n byw gydag ymddygiad camdriniol, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi lansio ymgyrch sy’n anelu i roi’r grym i ddioddefwyr gymryd y cam cyntaf tuag at geisio cymorth wrth iddo weithio i ddileu cam-drin domestig o’i gymunedau.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jayne Butler: “Mae cam-drin domestig yn faes gwaith cymhleth iawn ar gyfer heddluoedd ledled y wlad, gan fod cymaint o ddioddefwyr yn ofni’r canlyniadau posibl pe baent yn codi eu llais.
“Fel heddlu, yr ydym wedi ymrwymo i weithio tuag at ddileu cam-drin domestig, stelcio ac aflonyddu, a rhoi strwythurau a phrosesau mewn grym i gyflawni hyn. Er y gall hyn ymddangos fel tasg enfawr, credwn y byddai anelu am unrhyw beth llai na dileu ymddygiad o’r fath yn golygu’n bod ni’n derbyn yn ddi-gwestiwn y bydd hyn yn digwydd.
“Nid ydym yn barod i wneud hyn, ac mae’r ymgyrch hon yn un o’r camau yr ydym yn eu cymryd i wireddu’r nod hwn, gan siarad yn uniongyrchol â phobl sy’n byw gyda cham-drin domestig a thynnu sylw at y cymorth y gallwn gynnig.”
Mae cam cyntaf yr ymgyrch wedi’i arwain gan y ddealltwriaeth fod y penderfyniad i adael perthynas gamdriniol yn un anodd iawn. Mae dioddefwyr yn aml yn credu y byddai canlyniadau adrodd am eu partner yn waeth na pharhau i fyw yn y berthynas gan eu bod nhw’n wynebu chwalu teulu, colli ffrindiau, anawsterau ariannol, a’r bygythiad o drais pellach.
Fodd bynnag, mae swyddogion yn benderfynol o ddangos bod cymryd y cam cyntaf tuag at godi llais yn caniatáu i ddioddefwyr gael mynediad at gymorth ar gyfer parhau â’r broses cyfiawnder troseddol a chael eu traed tanynt eto.
“Yr ydym yn cydnabod ac yn deall y pryder gwirioneddol sy’n gysylltiedig ag adrodd am rywun yr oeddech yn ei garu – ac yn aml dal yn ei garu er waethaf ei ymddygiad,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Butler.
“Mae’r pryder hwn yn glir iawn i ni yn y ffordd yr ydym yn derbyn llawer o adroddiadau sydd ddim yn dod yn uniongyrchol wrth y dioddefydd. Mae plant yn ein galw i ddweud bod eu tad wedi bod yn dreisgar tuag at eu mam, sydd â gormod o ofn codi llais, ffrindiau sy’n dweud eu bod wedi derbyn galwad ffôn wrth i’r dioddefydd ddioddef ymosodiad, a chymdogion pryderus sy’n cysylltu â ni i fynd i leoliadau aflonyddwch.
“Hyd yn oed pan gyflwynir yr adroddiadau hyn, ac mae swyddogion yn mynd i’r lleoliad, yn aml, mae dioddefwyr yn gyndyn i gymryd camau gweithredu, cymaint yw’r ofn y mae’r troseddwyr wedi codi arnynt, a’r bygythiadau sydd wedi’u gwneud pe baent yn codi llais.
“Yr ydym angen i bobl wybod nad oes rhaid iddynt – ac ni ddylent – gadw’n dawel.
“Wrth i’r ymgyrch hon fynd rhagddi, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr, y camau y gallwn gymryd i sicrhau eu bod yn ddiogel gartref, ac yn rhannu digwyddiadau go iawn er mwyn dangos sut mae pobl eraill yn eu sefyllfa nhw wedi newid eu bywydau drwy gymryd y cam hynod ddewr hwnnw o gysylltu â’r heddlu.”
Rhennir gwybodaeth a chyngor ar gyfrifon Facebook a Twitter Heddlu Dyfed-Powys.
Gellir adrodd am gam-drin domestig, stelcio ac aflonyddu wrth yr heddlu drwy’r dulliau canlynol:
Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.
*Os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth arnoch i gysylltu â’r heddlu, mae yna sefydliadau sy’n medru’ch helpu. Cliciwch yma i ddod o hyd iddynt, neu chwiliwch am ‘Byw Heb Ofn’ neu ‘Cymorth i Fenywod’ ar-lein – mae gan y sefydliadau hyn linellau cymorth am ddim.