Stamp amser presennol: 14/06/25 14:22:38
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Cau y bar cyhoeddiad

Rhybudd Digwyddiad

Damwain awyren yn Ahmedabad

Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.

  • Beth i'w wneud os oes gennych bryderon am ffrindiau neu deulu

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Mab dewr yn adrodd am ei dad yn dilyn cam-drin domestig

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 10:36 18/11/22

DA campaign.jpg

Cymerodd bachgen bach a oedd mor bryderus am ymddygiad ei dad tuag at ei fam y cam dewr o alw’r heddlu i adrodd amdano.

Disgrifiodd y plentyn, na ellir ei enwi, y ffordd yr oedd ei dad wedi ymosod ar ei fam yn ystod cweryl, gan roi gwybodaeth hollbwysig heb gynhyrfu dim, er bod yr hyn yr oedd wedi’i weld wedi achosi gofid iddo.

Golygodd ei gamau gweithredu fod yr heddlu’n medru mynd i’w gartref yn gyflym er mwyn sicrhau nad oedd y bachgen bach a’i fam mewn perygl o niwed mwyach.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhyddhau gwybodaeth am y digwyddiad hwn wrth iddo weithio i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â cham-drin domestig, stelcio ac aflonyddu, gan anelu i roi hyder i ddioddefwyr godi llais ac adrodd am ymddygiad camdriniol.  

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Jayne Butler: “Yn gyntaf oll, mae angen inni dynnu sylw at ddewrder aruthrol y bachgen bach hwn, a roddodd ei ofnau naill ochr i wneud yn siŵr bod ei fam yn ddiogel a’n bod ni’n gwybod beth oedd wedi bod yn digwydd.  

“Er ei fod yn amlwg yn ofnus iawn, llwyddodd i roi i’n triniwr galwadau’r holl wybodaeth yr oedd angen arno er mwyn cofnodi’r digwyddiad yn llawn. Roedd hyn yn golygu bod modd anfon swyddogion i’w gartref yn gyflym er mwyn sicrhau ei fod ef a’i fam yn iawn.

“Heb ei ddewrder, yn ddiamau, ni fyddai’r digwyddiad hwn wedi’i adrodd, ac ni fyddai modd inni gynnig llwybrau at gymorth i’r teulu.”

Dechreuodd yr alwad â’r bachgen bach yn dweud fod ei dad, a oedd yn feddw yn ôl ei ddisgrifiad ef, wedi “ymosod” ar ei fam. Nododd y triniwr galwadau’n syth y byddai angen annog y bachgen i barhau, ac fe ganmolodd ef am fod yn “wych” o ran esbonio pam ei fod wedi ffonio.

Anogodd ef yn bwyllog i roi rhagor o wybodaeth er mwyn cael gwybod ble a phryd yr oedd yr ymosodiad wedi digwydd, gan drafod camau megis sicrhau bod y tŷ’n ddiogel gydag ef, ac yna anfon swyddogion i’r cartref.

Sbardunodd galwad y bachgen gysylltiad â’i ysgol hefyd o dan Ymgyrch Encompass, sef cynllun cenedlaethol sy’n sicrhau bod oedolyn allweddol yn cael gwybod am achos o gam-drin domestig y mae’r heddlu wedi ymdrin ag ef lle mae plant yn perthyn i un o’r oedolion cysylltiedig, neu’r ddau.

Gwneir hyn cyn dechrau’r diwrnod ysgol nesaf, gan ganiatáu i staff gynnig cymorth i blant sy’n profi cam-drin domestig yn syth.

“Mae’n anodd iawn i blentyn wybod bod rhiant mewn perygl, ac adrodd am hyn,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd.

“Fodd bynnag, er bod y digwyddiad hwn wedi tynnu’n sylw gan ei fod yn ymwneud â phlentyn, nid yw’n anarferol i rywun heblaw’r dioddefydd godi llais. Yn anffodus, yr ydym yn gwybod ac yn deall fod nifer o bobl sy’n byw gyda cham-drin domestig wedi’u parlysu gan ofn am yr hyn a allai ddigwydd pe baen nhw’n cysylltu â ni.

“Yn aml, mae’r dioddefydd yno gyda’r galwr, ond nid yw’n barod i siarad gyda ni. Hyd yn oed yn yr achosion hyn, gellir cymryd camau gweithredu – medrwn sicrhau bod cymorth ar gael, dechrau’r broses erlyn, a gweithio tuag at sicrhau amddiffyniad tymor hir, megis gorchmynion dim cyswllt.

“Ond er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen inni wybod beth sy’n digwydd. Os ydych chi’n medru uniaethu â hyn, neu os ydych chi yn yr un sefyllfa â’r bachgen bach hwn a’i fam, rhowch wybod inni.  

“Medrwch ein ffonio, neu adrodd amdano ar-lein os nad ydych chi’n teimlo’ch bod chi’n medru siarad ar hyn o bryd.”  

Gellir adrodd am gam-drin domestig, stelcio ac aflonyddu wrth yr heddlu drwy un o’r dulliau canlynol:

  • Ar-lein: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni-beta/cysylltu-a-ni/
  • E-bost: [email protected]
  • Ffôn: 101
  • Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908

Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.

*Os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth arnoch i gysylltu â’r heddlu, mae yna sefydliadau sy’n medru’ch helpu. Cliciwch yma i ddod o hyd iddynt, neu chwiliwch am ‘Byw Heb Ofn’ neu ‘Cymorth i Fenywod’ ar-lein – mae gan y sefydliadau hyn linellau cymorth am ddim.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag Ymgyrch Encompass, cliciwch yma.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.