Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, yr ydym wedi bod yn siarad am Ymgyrch Coupland – ymgyrch a gynhaliwyd ledled Sir Gaerfyrddin a oedd yn targedu blaenoriaethau’r Prif Gwnstabl (cyffuriau, cam-drin domestig a thrais a throseddau rhywiol).
Medrwn roi diweddariad yn awr ar y troseddau cyffuriau a gofnodwyd yn ystod yr ymgyrch, a welodd 6 gwarant yn cael eu cynnal, 6 unigolyn yn cael ei arestio, ac ymchwiliadau i 13 trosedd yn cychwyn.
Llanelli:
Arestiwyd dyn 30 oed ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau Dosbarth A a Dosbarth C â’r bwriad o werthu yn dilyn gwarant. Daethpwyd o hyd i 2.5 owns o gocên, 10,000 o dabledi Faliwm, 500 tabled pregabalin a steroidau anabolig gwerth £10,000 yn ei feddiant.
Arestiwyd dyn 24 oed ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau â’r bwriad o werthu ar ôl cael ei ddal â 2 owns o gocên a 3 owns o ganabis yn ei feddiant yn ystod gwarant.
Bydd cyfweliad gwirfoddol yn cael ei gynnal gyda dyn a gafodd ei ddal â madarch hud yn ei feddiant.
Caerfyrddin:
Arestiwyd dau ddyn – 19 a 22 oed – ar amheuaeth o feddu â’r bwriad o werthu ar ôl dod o hyd i 2 gilogram o ganabis a 200 o dabledi ecstasi yn ystod gwarant.
Arestiwyd un aelod o grŵp troseddu trefnedig ar amheuaeth o feddu ar heroin â’r bwriad o werthu. Mae’r ymchwiliad yn parhau.
Cyhoeddwyd rhybudd oedolyn am feddu ar ganabis llysieuol.
Llangennech:
Cyflwynwyd rhybudd i oedolyn i unigolyn â 0.8 gram o ganabis llysieuol yn ei feddiant.
Porth Tywyn:
Bydd rhybuddion oedolion yn cael eu cyhoeddi i dri unigolyn a gafodd eu dal â chanabis a thabledi morffin yn eu meddiant.
Er bod cyffuriau’n un o’r meysydd ffocws allweddol yn ystod yr ymgyrch, canolbwyntiodd swyddogion eu hymdrechion hefyd ar fynd i’r afael â cham-drin domestig. Pennwyd car heddlu ar gyfer ymweld â dioddefwyr bob dydd. Rhoddwyd diweddariadau iddynt am eu hadroddiadau trosedd a chynigwyd llwybrau at gymorth iddynt. Dros 15 diwrnod, datblygwyd 30 achos o gam-drin domestig, stelcio ac aflonyddu, a chofnodwyd 13 trosedd arall.
Gwnaed defnydd o rwydwaith TCC yr heddlu hefyd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Dros Dro Rhys Jones: “Roedd yr ymgyrch hon yn llwyddiannus iawn o ran canolbwyntio ar flaenoriaethau’r Prif Gwnstabl, sy’n cynnwys gwneud ardal Dyfed-Powys yn elyniaethus i’r rhai sy’n gwerthu cyffuriau, a dileu cam-drin domestig.
“Yn aml iawn, mae’r troseddau hyn yn gysylltiedig â throseddau eraill - o ddigwyddiadau treisgar i droseddau gyrru - a thrwy ganolbwyntio ar y troseddwyr hyn, yr ydym yn gwneud ein cymunedau’n llefydd mwy diogel i fyw a gweithio ynddyn nhw.
“Bydd y gwaith hwn yn parhau, a byddwn ni’n rhoi diweddariadau rheolaidd lle y medrwn ar ganlyniadau’r ymchwiliadau hyn.”