Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
“Ymddiriedwch yn eich perfedd, ac ymddiriedwch yn eich greddf. Gallwch fyw bywyd gwahanol ar ôl cam-drin domestig.”
Mae dioddefydd ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol wedi cynnig y cyngor hwn i unrhyw un sy’n byw gyda cham-drin domestig wrth iddi weithio i ailadeiladu ei bywyd hi a’i phlant.
Mae hi wedi bod mor ddewr â rhannu ei phrofiadau fel rhan o ymgyrch aeaf Heddlu Dyfed-Powys, sy’n anelu i siarad gyda phobl sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig, stelcio ac aflonyddu, gan roi’r grym iddynt adrodd am ddigwyddiadau, a chynnig ffyrdd o ddod o hyd i gymorth iddynt.
Ar gyfer Sarah*, roedd arwyddion rhybudd bod rhywbeth o’i le yn ei phriodas. Ond fel sawl un arall, dylanwadwyd arni i gredu bod ymddygiad ei gŵr tuag ati’n normal.
Mewn gwirionedd, yr oedd yn ei rheoli drwy orfodaeth. Mae hynny’n golygu ei fod yn defnyddio bygythiadau, sarhad a brawychu neu fath arall o gam-drin i’w niweidio, ei chosbi, neu ei dychryn. Mae troseddwyr yn defnyddio’r ymddygiadau hyn i ynysu dioddefwyr rhag cymorth, eu hamddifadu o annibyniaeth a rheoli eu bywydau bob dydd.
“Rwyf wedi dysgu nad oes angen i ymddygiad fod yn eithafol er mwyn iddo gael yr effaith mae’n ei gael,” meddai Sarah. “Ni wnaeth erioed fy mrifo’n gorfforol, ond mae’n ddyn cryf iawn, ac roeddwn i’n gwybod y gallai fod wedi gwneud hynny.
“Fe wnaeth fy rheoli, fy ngham-drafod, a gwneud imi deimlo ac edrych yn ddiwerth o flaen fy mhlant a’m teulu. Cefais fy nibwyllo a’m pwylldreisio, ac roeddwn i’n byw bywyd camarweiniol.”
Esboniodd Sarah fod un o’i ffrindiau wedi gweld ymddygiad a wnaeth iddi amau ei fod yn gamdriniol, ac anfonodd negeseuon ati gyda dolenni i lefydd lle y gallai gael cymorth. Anogodd yr ymyrraeth hon hi i weithredu, a gadawodd y cartref teuluol gyda’i phlant.
“Dywedodd fy ffrind wrthyf mai cam-drin domestig ydoedd ac na fyddai’n hir nes y byddwn yn ei adael,” meddai. “Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, fe adawom.
“Rwy’n credu yr oeddwn i wedi gwybod ers peth amser, ond nid oedd gennyf gefnogaeth fy nheulu. Pe bawn i’n mynegi pryderon, byddent yn dweud wrthyf, “O, mae’n iawn,” gan nad ydynt yn gweld y cam-drin emosiynol. Priodais ddyn fel fe yn rhannol oherwydd y ffordd y cefais fy magu. Roedd yn rhaid imi gau fy ngheg a’i oddef.
“Ond oherwydd bod rhywun arall wedi’i ddilysu, yr oedd fel pe bai golau wedi’i daflu ar y sefyllfa.”
Ar ôl treulio amser mewn lloches ar gyfer menywod, daeth Sarah o hyd i gartref newydd, ac mae hi nawr yn ailadeiladu eu bywydau. Fodd bynnag, gan fod ei chyn-ŵr mewn cysylltiad â’u plant, dywed nad yw hi byth yn medru ymlacio’n llwyr, gan wybod ei fod dal yn rhan o’u bywydau.
“Gor-wyliadwriaeth ydyw,” meddai. “Mae’n flinedig iawn o safbwynt emosiynol a chorfforol, ac nid yw’n rhywbeth y gallwch gynnal.
“Y mae wedi effeithio ar bob rhan o’m bywyd. Fy arian, fy nghartref, fy iechyd emosiynol, iechyd meddyliol fy mhlant a’m gwaith. Oherwydd y pwylldreisio a’r camargraff, y mae wedi cymryd amser hir imi ganfod sut i gael perthnasau diogel. Hyd yn oed gyda ffrindiau, mae’n cymryd amser hir i gredu eu bod nhw wir eisiau treulio amser gyda mi.
“Mae’n rhaid ichi chwilio am bobl ddiogel - ond mae’n rhaid ichi ddysgu ymddiried yn eich hun yn gyntaf. Roedd yr hyn a wnaeth i mi’n ddiraddiol a dad-ddynol. O edrych yn ôl, yr wyf yn meddwl tybed sut y gallwn fod wedi meddwl y medrwn ei newid. Yr unig un yr oeddwn yn medru newid oedd fi fy hun, ac rwy’n gwneud hynny nawr.”
---------------------------------
Os ydych chi’n medru uniaethu gydag unrhyw ran o stori Sarah, neu os ydych chi angen adrodd am gam-drin domestig, stelcio neu aflonyddu, cewch gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys drwy’r ffyrdd canlynol:
Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.
Os ydych chi’n teimlo’ch bod chi angen cymorth i gysylltu â’r heddlu, mae yna sefydliadau sy’n medru’ch helpu. Cliciwch yma i ddod o hyd iddynt, neu chwiliwch ar-lein am y Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol, Byw Heb Ofn neu Cymorth i Fenywod – mae gan yr holl sefydliadau hyn linellau cymorth sy’n rhad ac am ddim.