Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
“Ni fedraf i fyth gael trefn i fy mywyd eto. Mae fy mywyd dal yn cael ei reoli gan ei ymddygiad. Mae’n rhaid imi wneud beth bynnag y medraf i gadw fy hun yn ddiogel.”
Dyma eiriau dynes a gafodd ei stelcio, ei rheoli a’i bygwth gan ei chyn-bartner. Mae hi wedi bod mor ddewr â rhannu ei phrofiadau fel dioddefydd cam-drin domestig fel rhan o ymgyrch aeaf Heddlu Dyfed-Powys, sy’n anelu i siarad â’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig, stelcio ac aflonyddu, gan roi’r grym iddynt adrodd am ddigwyddiadau, a chynnig ffyrdd o ddod o hyd i gymorth.
Amlinellodd Cathy effeithiau parhaus y cam-drin seicolegol a ddioddefodd gan ddyn â’i “thargedodd, meithrinodd a’i rheolodd” pan oedd hi’n fregus.
Ag yntau’n ymddangos fel ‘un o’r dynion mwyaf ffeind’ pan gyfarfu’r ddau, dywedodd Cathy bod ei ymddygiad wedi newid wrth iddynt gychwyn perthynas, a dechreuodd ei rheoli.
“Cefais fy nefnyddio a’m rheoli’n llwyr gan y dyn hwn,” meddai. “Fe wnaeth yr holl bethau yr ydych yn eu gweld mewn achosion cam-drin domestig lle mae’r dioddefydd a’r troseddwyr yn briod neu’n byw gyda’i gilydd i mi – fe wnaeth fy rheoli a’m hatal rhag gweld ffrindiau, ac roedd yn difrodi pethau ac yn fy meio i. Yr oedd yn fy nibwyllo i’n llwyr, ond fe fyddai mor grac fel na fyddwn i’n meiddio gwneud rhywbeth amdano.
“Ni wnaeth erioed fy ngham-drin i’n gorfforol, ond effeithiau cael eich rheoli drwy orfodaeth sydd fwyaf peryglus – mae’n amhosibl dod dros y cam-drin seicolegol.”
Ar ôl sylweddoli bod rhai o’i weithredoedd yn faneri rhybudd, dechreuodd Cathy gadw dyddiadur lle y gallai gofnodi ei ymddygiad. Yr oedd yn ei gwylio pan oedd hi adref, yn ymddangos mewn llefydd nad oedd wedi dweud wrtho ei bod yn mynd iddynt, a daeth i wybod nes ymlaen ei fod yn ei stelcio.
Yn ogystal â chael cyngor gan Heddlu Dyfed-Powys, ceisiodd gymorth gan sawl sefydliad cymorth.
“Byddwn i’n cropian i’r gegin er mwyn gweithio paned o de – dyna pha mor anniogel yr oeddwn yn teimlo bryd hynny,” meddai.
“Am fisoedd a misoedd, roedd gennyf fag dros nos wedi’i bacio fel fy mod i’n medru diflannu. Roedd gennyf ffordd o ddianc o bob ystafell yn fy nhŷ. Roeddwn i’n gwybod yn union sut y gallwn adael pe bai angen.
Mae cam-drin domestig yn cynnwys cam-drin corfforol neu rywiol; ymddygiad treisgar neu fygythiol; cam-drin economaidd; a cham-drin seicolegol neu emosiynol. Yn aml, mae’r dioddefydd a’r troseddwr yn perthyn i’w gilydd, yn bartneriaid sydd, neu sydd wedi bod, yn briod neu mewn perthynas sifil (neu wedi dyweddïo); mewn perthynas agos; neu wedi cael perthnasau rhieiniol gyda’r un plentyn.
“Yr wyf eisiau lledaenu’r gair nad yw cam-drin domestig bob amser yn ymwneud â rhywun yr ydych yn byw gydag ef neu wedi byw gydag ef, neu’n rhywun y mae gennych blant gydag ef,” meddai Cathy. “Os ydych chi wedi cael perthynas agos â rhywun - hyd yn oed perthynas un noson - ac mae’n mynd ymlaen i’ch stelcio, eich aflonyddu neu’ch rheoli - cam-drin domestig yw hynny.
“Nid oes gwahaniaeth beth yw eich oed, cefndir neu addysg, gallech gael eich effeithio ganddo.”
Canmolodd Cathy’r camau gweithredu a gymerwyd gan yr heddlu yn bennaf, ac ar ddiwedd y broses cyfiawnder troseddol, rhoddwyd mesurau mewn grym i’w diogelu. Fodd bynnag, cafodd y cam-drin seicolegol effaith ar ei hiechyd meddwl, ac mae ei phrofiadau wedi arwain at newidiadau mawr i’r ffordd mae’n byw ei bywyd.
“Rwyf bob amser yn ystyried canlyniadau’r hyn rwy’n gwneud neu’n dweud,” meddai. “Rwyf bob amser yn edrych o’m cwmpas, bob amser yn edrych yn fy nrych ôl, ac rwy’n methu ymlacio.
“Mae’n rhaid imi fod yn barod o hyd.
“Y mae dal yn fygythiad. Tan iddo farw, rwy’n teimlo ei fod yn fygythiad i mi a’m bywyd.”
--------------------------------------------------------------------------------------
* Os ydych chi’n medru uniaethu gydag unrhyw ran o stori Cathy, neu os ydych chi angen adrodd am gam-drin domestig, stelcio neu aflonyddu, cewch gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys drwy’r ffyrdd canlynol:
Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.
* Os ydych chi’n teimlo’ch bod chi angen cymorth i gysylltu â’r heddlu, mae yna sefydliadau sy’n medru’ch helpu. Cliciwch yma i ddod o hyd iddynt, neu chwiliwch ar-lein am y Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol, Byw Heb Ofn neu Cymorth i Fenywod – mae gan yr holl sefydliadau hyn linellau cymorth sy’n rhad ac am ddim.