Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dynes a ddioddefodd blynyddoedd o reolaeth emosiynol ac ymosodiadau corfforol dan law ei phartner wedi agor i fyny am anhawster gadael perthynas gamdriniol.
Er y gall fod yn hawdd i’r rhai ar y tu allan ofyn ‘pam na wnei di adael’, yn aml, mae pryderon am dai, arian, neu’r effaith ar y plant. Ac fel yr esbonia Jess, gall rhywun sydd wedi cael ei gam-drin dal fod â rhyw fath o gysylltiad â’r camdriniwr, neu mae wedi’i ddylanwadu i gredu bod y camdriniwr wedi newid.
Mae Jess wedi sôn am dair blynedd o gam-drin emosiynol a chorfforol fel rhan o ymgyrch aeaf Heddlu Dyfed-Powys, sy’n anelu i rymuso’r rhai sy’n byw gyda cham-drin, stelcio neu aflonyddu i adrodd am ddigwyddiadau a cheisio cymorth.
Pan ddechreuodd Jess berthynas gyda’i chyn-bartner, mae’n cyfaddef bod arwyddion cynnar – ond cynnil – o ymddygiad camdriniol yn deillio o genfigen. Er bod ei ffrindiau wedi sylwi ar hyn, byddai ei phartner yn dweud wrth Jess eu bod nhw’n ‘ymyrryd’.
“Byddai bod tro’n fy narbwyllo ei fod yn emosiynol oherwydd cryfder ei deimladau tuag ataf a’i fod yn amlwg ddim yn meddwl y pethau mwy cas yr oedd yn eu dweud dan ddylanwad alcohol,” meddai.
“Ceisiodd fy ffrindiau ddweud wrthyf y gallai’r berthynas gael ei hystyried yn un gamdriniol, ond roeddwn i’n gwrthod cydnabod hyn.”
Dros amser, gwaethygodd y cam-drin yr oedd Jess yn ei wynebu. Cafodd ei galw’n enwau sarhaus a’i rheoli’n emosiynol, ac roedd hi o hyd yn cael ei chyhuddo o fod yn anffyddlon. Pe bai’n treulio amser i ffwrdd o’r cartref, roedd ei phartner eisiau cysylltiad cyson.
“Byddai amser a dreuliwyd gyda ffrindiau bob amser yn arwain at gam-drin ar ôl mynd adref, felly roedd adegau pan fyddwn i’n penderfynu nad oedd yn werth y drafferth,” meddai.
“Byddai’n fy holi’n barhaus beth oeddwn i’n ei wneud ac am fy nheimladau tuag ato. Byddai’n mynd drwy fy ffôn tu ôl i’m cefn ac yn darllen fy nyddiadur, gan ddefnyddio cofnodion o’r gorffennol yn fy erbyn.
“Am rai misoedd, serch ei ymddygiad emosiynol gamdriniol, yr oeddwn bob amser yn credu na fyddai’n fy niweidio’n gorfforol.”
Fodd bynnag, arweiniodd y cam-drin emosiynol at ymosodiadau corfforol, a dioddefodd Jess ymosodiadau a bygythiadau. Ar ôl un digwyddiad, cymerodd y cam dewr o alw Heddlu Dyfed-Powys ar ôl dianc gyda’i ffôn.
“Am unwaith, roedd gen i dystiolaeth gorfforol ar ffurf cwt, felly roeddwn i’n teimlo y byddwn yn cael fy nhrin yn fwy o ddifrif, yn hytrach na’i air ef yn erbyn fy ngair i,” meddai. “Tan hynny, roeddwn i bob amser wedi teimlo bod yn rhaid imi gael trefn ar unrhyw beth o fewn fy mherthynas fy hun.”
Dysgodd Jess ei bod hi wedi dioddef cam-drin domestig ar ffurf ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol ers dwy flynedd.
“Cefais syn pan ddywedodd yr heddlu fy mod i wedi disgrifio un o’r sefyllfaoedd cam-drin domestig mwyaf difrifol yr oeddent erioed wedi’i brofi, yn seiliedig ar gymaint yr oeddwn wedi dod i’w dderbyn fel ymddygiad normal,” meddai.
“Tan hynny, roeddwn i’n teimlo embaras fy mod i wedi cysylltu â’r heddlu a chredais y byddent yn diystyru’r mater gan nad oedd gennyf anafiadau corfforol difrifol.”
Cafodd camdriniwr Jess ei arestio a’i gyhuddo o ymosod.
Er gwaethaf hyn, dylanwadwyd arni i ailddechrau eu perthynas ychydig fisoedd yn ddiweddarach wedi iddo addo ei fod wedi newid. Fodd bynnag, dioddefodd flwyddyn arall o gam-drin cyn gorffen y berthynas eto.
Er eu bod yn awr wedi gwahanu, mae Jess yn gwybod ei fod yn cyflwyno perygl iddi, ac yn ofni na fydd hi byth yn rhydd rhagddo.
“Rwy’n teimlo fy mod i wedi cael fy effeithio’n fawr yn emosiynol a’m trawmateiddio gan ein hamser gyda’n gilydd,” meddai.
“Y mae dal yn cysylltu â mi’n ddyddiol, gan geisio fy nghael yn ôl. Byddai’n well gennyf beidio â chael unrhyw gysylltiad ag ef o gwbl, ond mae’n cadw fy narbwyllo. Rwy’n ymateb i hyn oherwydd mae rhan ohonof wedi’i chyflyru i’w blesio er mwyn osgoi’r cam-drin.
“Weithiau, rwy’n ofni na fyddaf byth wir yn dianc rhagddo – ac y bydd y ffrindiau sy’n weddill gennyf yn fy ngadael i’r ffawd hwn.”
Er bod Jess yn gwerthfawrogi mor anodd ydyw i godi llais, mae’n gobeithio y bydd darllen ei stori’n annog rhywun i geisio cymorth.
“Roeddwn i bob amser yn hoffi meddwl amdanaf fel dynes gref, ddeallus, annibynnol, ac ni ddychmygais byth y byddwn i’n canfod fy hun yn y fath sefyllfa, ond mae wir yn medru digwydd i unrhyw un,” meddai.
“Nid chi sydd ar fai. Yr unig un a ddylai deimlo cywilydd mewn perthynas gamdriniol yw’r camdriniwr.”
-----------------------------------------------
*Os ydych chi’n medru uniaethu gydag unrhyw ran o stori Jess, neu os ydych chi angen adrodd am gam-drin domestig, stelcio neu aflonyddu, cewch gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys drwy’r ffyrdd canlynol:
Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.
* Os ydych chi’n teimlo’ch bod chi angen cymorth i gysylltu â’r heddlu, mae yna sefydliadau sy’n medru’ch helpu. Cliciwch yma i ddod o hyd iddynt, neu chwiliwch ar-lein am y Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol, Byw Heb Ofn neu Cymorth i Fenywod – mae gan yr holl sefydliadau hyn linellau cymorth sy’n rhad ac am ddim.