Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion heddlu’n treulio mwy o amser yn yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, diolch i chwistrelliad cyllid gan y Swyddfa Gartref.
Mae Heddlu Dyfed-Powys, gyda chymorth Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi derbyn bron hanner miliwn o bunnoedd ar gyfer mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled yr ardal heddlu mewn ymateb pwrpasol a elwir yn Ymgyrch Ivydene.
Drwy Ymgyrch Ivydene, bydd deg ardal – sydd wedi’u nodi’n fannau problemus o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol – yn derbyn 11,000 o oriau ychwanegol o batrolau heddlu dros yr wyth mis nesaf.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis: “Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith difrifol ar ansawdd bywyd pobl sydd eisiau mynd o gwmpas eu bywydau bob dydd.
“Mae’r mannau problemus hyn wedi’u dewis fel yr ardaloedd sy’n profi’r lefelau trais a throseddau ymddygiad gwrthgymdeithasol uchaf ac yn seiliedig ar gudd-wybodaeth leol.
“Mae’r patrolau hyn yn anelu i roi tawelwch meddwl drwy fod yn bresennol er mwyn helpu pobl i deimlo’n ddiogel, gan aflonyddu ar droseddau’n rhagweithiol a’u hatal hefyd.”
Bydd tua 27 awr yr wythnos o batrolau mewn mannau problemus ym mhob un o’r ardaloedd hyn – sydd yn ychwanegol i batrolau heddlu arferol – a fydd hefyd yn cynnwys y defnydd o adnoddau arbenigol, megis dronau, gan ddibynnu ar y materion sy’n cael eu targedu.
Mae swyddogion hefyd yn cynnal arolygon yn y mannau problemus i helpu’r heddlu i ddeall pryderon y rhai sy’n byw yno’n well a mynd i’r afael â nhw.
Mae ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’ yn derm eang. Mae'n cynnwys ymddygiad sydd wedi achosi, neu sy’n debygol o achosi, aflonyddwch, braw neu drallod i aelod neu aelodau o’r cyhoedd. Gall ymddygiadau troseddol neu ymddygiadau nad ydynt yn rhai troseddol, megis gollwng sbwriel, fandaliaeth, bod yn feddw’n gyhoeddus, cŵn ymosodol, neu niwsans sŵn, hefyd gael eu hystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd y patrolau’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r mathau hyn o broblemau yn yr ardaloedd canlynol:
Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi sicrhau bron £1 miliwn gan y Swyddfa Gartref i gydweithio ag Awdurdodau Lleol a Heddlu Dyfed-Powys ar fentrau sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Meddai: “Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith ddirfawr ar ei ddioddefwyr, ac mewn rhai achosion, ar y gymuned ehangach.
“Er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae angen arloesedd, partneriaethau cryf rhwng asiantaethau lleol, a meddylfryd sy’n rhoi dioddefwyr yn gyntaf. Mae’r mentrau hyn sy’n ymwneud ag ardaloedd â phroblem ymddygiad gwrthgymdeithasol yn anelu i gyflawni hynny.”
Dros yr wyth mis nesaf, bydd monitro misol yn digwydd ac yn cael ei gyflwyno i’r Swyddfa Gartref. Bydd y canlyniadau yr adroddir amdanynt yn cynnwys oriau o batrolau amlwg ar droed, arfau a adferwyd, nifer yr arestiadau, nifer y pwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol a ddefnyddiwyd, a nifer y prosesau stopio a chwilio.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai pob gwasanaeth heddlu yng Nghymru a Lloegr yn derbyn o leiaf £1 miliwn i gynyddu patrolau ar gyfer mynd i’r afael â thrais ac anhrefn, wedi’u targedu mewn ardaloedd â lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol (ym mis Chwefror 2024).
Dilynodd gynllun peilot o’r ymagwedd mewn 10 ardal, a welodd dros 80,000 o oriau o batrolau yn y chwe mis ers iddo gael ei lansio.