Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae myfyrwyr o bob cwr o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, a Phowys wedi’u cydnabod am eu cyfraniadau neilltuol i gystadleuaeth poster a gynhaliwyd fel rhan o fenter Ymgyrch Ivydene Heddlu Dyfed-Powys.
Yn ystod y misoedd diwethaf, gwahoddwyd ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y pedair sir i gyflwyno cynlluniau’n tynnu sylw at effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol a phwysigrwydd hyrwyddo cymdogaethau mwy diogel.
Wythnos diwethaf, barnwyd y posteri gan banel o swyddogion heddlu ac arbenigwyr atal trosedd er mwyn dod o hyd i’r enillwyr.
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo ar Dydd Llunn Tachedd 18eg, lle’r anrhydeddwyd y pum myfyriwr buddugol am eu cyfraniadau neilltuol.
Mae ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’ yn derm eang. Mae'n cynnwys ymddygiad sydd wedi achosi, neu sy’n debygol o achosi, aflonyddwch, braw neu drallod i aelod neu aelodau o’r cyhoedd. Gall ymddygiadau troseddol neu ymddygiadau nad ydynt yn rhai troseddol, megis gollwng sbwriel, fandaliaeth, bod yn feddw’n gyhoeddus, cŵn ymosodol, neu niwsans sŵn, hefyd gael eu hystyried yn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Dywedodd Caryl Griffiths, Cydlynydd Mannau Problemus o ran Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys:
“Nod y gystadleuaeth hon oedd cynnwys myfyrwyr mewn deall effeithiau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar eu cymunedau, a’u hysbrydoli i feddwl sut y gallant gyfrannu at amgylchedd mwy diogel a chefnogol.
“Roedd barnu’r gystadleuaeth yn heriol oherwydd safon uchel y ceisiadau, ond yn y pen draw, dewisom bum enillydd a ddangosodd feddylgarwch a chreadigrwydd eithriadol.
“Diolch arbennig i Bethan James, ein Rheolwr Gwasanaeth Ysgolion, am ei rhan mewn dod â’r holl ysgolion at ei gilydd.
Tan fis Mawrth 2025, bydd deg o’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, a Phowys yn derbyn patrolau heddlu ‘mannau problemus’ penodol ychwanegol drwy Ymgyrch Ivydene, diolch i chwistrelliad o arian gan y Swyddfa Gartref, a gafodd ei sicrhau ar gyfer yr heddlu gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn.
Mae’r patrolau’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r mathau hyn o faterion yn yr ardaloedd canlynol:
Dywedodd yr Arolygydd Darren Crockford:
“Menter dargedig yw Ymgyrch Ivydene sy’n defnyddio ymagwedd blismona ‘mannau problemus’ tuag at fynd i’r afael ag ymddygiad sy’n wrthgymdeithasol ac yn achosi niwed a braw yn y gymuned.
“Mae mannau problemus wedi’u dethol fel yr ardaloedd sy’n profi’r achosion mwyaf o droseddau ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais ac yn seiliedig ar gudd-wybodaeth leol.
“Mae’r patrolau’n anelu i ddarparu presenoldeb cysurlon i helpu pobl i deimlo’n ddiogel, ac ar yr un pryd, aflonyddu’n rhagweithiol ar drosedd a gweithredu fel atalydd.
“Elfen bwysig o ymagwedd gyffredinol Ymgyrch Ivydene fydd ymgysylltu â’n cymunedau a chael trafodaethau ystyrlon am y ffordd mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar y gymuned a’u hannog i gymryd rhan weithredol mewn creu llefydd diogel a chadarnhaol i fyw ynddynt.”
Ychwanegodd Bethan James, Rheolwr Gwasanaeth Ysgolion Heddlu Dyfed-Powys:
“Mae ein Gwasanaeth Ysgolion yn cynnig sesiynau atal trosedd i blant a phobl ifainc ar bynciau megis ymddygiad gwrthgymdeithasol lle’r ydym yn defnyddio ffilmiau wedi’u teilwra ac enghreifftiau bywyd go iawn i adlewyrchu profiadau dioddefwyr ac archwilio’r ffiniau rhwng hwyl ac ofn.
“Mae sesiynau a gyflwynir gan ein tîm o Swyddogion Heddlu Ysgolion wedi’u cynllunio’n benodol i herio meddylfryd ac agweddau mewn amgylchedd dysgu diogel a chefnogol.
“Mae’r trafodaethau rhwng y swyddogion a’r dysgwyr yn archwilio effeithiau niweidiol hirdymor ymddygiad gwrthgymdeithasol, am droseddau a chanlyniadau a ble gall plant ddod o hyd i gyngor a chymorth.”
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhannu gwybodaeth i helpu aelodau o’r cyhoedd i adnabod ymddygiad gwrthgymdeithasol, adrodd amdano a chael cymorth ar ei gyfer. Dilynwch nhw ar Facebook am ragor o wybodaeth.