Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae ymgyrch diogelwch ffyrdd, gyda’r nod o addysgu gyrwyr ifanc a beicwyr am beryglon y ffordd, wedi’i chyflwyno’n llwyddiannus ar draws ysgolion uwchradd yng ngogledd Powys. Pwysleisiodd ymgyrch Eich Dyfodol Eich Dewis, a gyrhaeddodd gannoedd o fyfyrwyr, bwysigrwydd hanfodol arferion gyrru a beicio diogel.
Cododd yr ymgyrch, sef ymdrech ar y cyd rhwng swyddogion plismona’r ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys, swyddogion heddlu ysgolion, y gwasanaeth tân, a thimau diogelwch ffyrdd Cyngor Powys, ymwybyddiaeth o ganlyniadau ymddygiad peryglus, a sut i gadw’n ddiogel y tu ôl i’r llyw. Ffocws allweddol yr ymgyrch oedd atgyfnerthu’r neges bod diogelwch ar y ffyrdd yn gyfrifoldeb a rennir sy’n gofyn am ddewisiadau mwy diogel gan bawb.
🚓 Dywedodd Rhingyll Plismona’r Ffyrdd, Rob Hamer, “Ein pobl ifanc yw gyrwyr a beicwyr yfory, ac mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau iddynt gadw’n ddiogel ar y ffyrdd.
“Mae ymgyrch Eich Dyfodol Eich Dewis wedi dod ag asiantaethau lleol ynghyd i ddarparu neges glir: mae diogelwch ar y ffyrdd yn gyfrifoldeb i bawb. Drwy gydweithio, gallwn helpu i atal gwrthdrawiadau ac achub bywydau.”
Dros yr wythnos, clywodd myfyrwyr gan ein swyddogion am bwysigrwydd gyrru cyfrifol, peryglon goryrru, gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, defnyddio dyfais symudol, gwisgo gwregys diogelwch, a gyrru diofal a pheryglus. Gelwir y rhain yn y Pump Angheuol. Clywsant hefyd hanes Olivia Alkir mewn ffilm bwerus a ryddhawyd ym mis Mawrth 2022. Mae Stori Olivia yn esbonio sut y cafodd Olivia, 17 oed o Ruthun, ei lladd yn drasig ar y B5105 yn Rhuthun ym mis Mehefin 2019 yn dilyn gwrthdrawiad lle bu dau yrrwr ifanc yn rasio.

👮♀️ Dywedodd y Swyddogion Heddlu Ysgolion Lindsay Sweetman a Gayle Jones, “Rydym yn gobeithio, trwy glywed stori Olivia, y bydd myfyrwyr yn gadael gyda gwell dealltwriaeth o’r risgiau sy’n gysylltiedig â gyrru a beicio, a’r cyfrifoldeb sydd ganddynt pan fyddant yn mynd y tu ôl i’r llyw.”
💬 Ychwanegodd swyddog diogelwch ffyrdd Cyngor Sir Powys, Jim Campbell, “Mae’r ymgyrch hon wedi bod yn enghraifft wych o sut y gall y gymuned ddod at ei gilydd i greu effaith barhaol. Gall addysgu gyrwyr ifanc nawr wneud gwahaniaeth enfawr i leihau nifer y gwrthdrawiadau a marwolaethau ar ein ffyrdd yn y dyfodol.”
Mae adborth gan fyfyrwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda llawer yn dweud eu bod yn teimlo'n fwy hyderus yn eu gallu i wneud dewisiadau diogel ar y ffordd. Sbardunodd yr ymgyrch hefyd drafodaethau gwerthfawr ymhlith myfyrwyr am bwysau gan gyfoedion, peryglon ymddygiadau’r Pump Angheuol, a phwysigrwydd codi llais os ydynt yn gweld gyrru’n anniogel.
Mae’r digwyddiad wythnos o hyd yn rhan o ymrwymiad parhaus gan Heddlu Dyfed-Powys ac asiantaethau partner i leihau gwrthdrawiadau a marwolaethau ar ein ffyrdd.