Stamp amser presennol: 14/07/25 19:16:31
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Bydd Strategaeth Plismona Cymunedol Newydd yn Cynyddu Amlygrwydd Swyddogion Plismona Bro

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 12:00 03/10/24

Gall preswylwyr lleded Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys ddisgwyl gweld mwy o’u timoedd plismona cymunedol wrth i strategaeth newydd sy’n rhoi pwyslais o’r newydd ar ymgysylltu, ymyrraeth gynnar, ac atal gael ei lansio.

Darperir plismona bro gan dimoedd o swyddogion cefnogi cymunedol yr heddlu (SCCH), cwnstabliaid heddlu a chwnstabliaid gwirfoddol sy’n gweithio ochr yn ochr â’r gymuned, gwasanaethau cyhoeddus ac elusennau i nodi a deall y materion sy’n effeithio ar ddiogelwch pobl, teimladau o ddiogelwch, ac ansawdd bywyd pobl yn eu hardal leol.

O dan y strategaeth newydd, bydd Timoedd Plismona ac Atal Bro yn treulio mwy o amser yn bod yn amlwg yn eu cymunedau, gan fynd i’r afael ag achosion craidd problemau sy’n achosi trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn cynyddu ofn trosedd, ac yn erydu hyder y cyhoedd yn yr heddlu.

 

💬 Dywedodd y Prif Gwnstabl Dr Richard Lewis: “Mae swyddogion plismona bro, SCCH a gwirfoddolwyr yn cyflawni rôl hollbwysig yn y dirwedd blismona.

“Nid yw atal niwed yn gysyniad newydd i ni, nac yn wir i’n partneriaid. Fodd bynnag, rydyn ni’n gweithredu ymagwedd newydd, gwell, gyda mwy o ffocws ar atal, â’r nod o leihau lefelau dioddefwyr a throseddau, a lleihau galw ar blismona.

“Wrth i’r galw am wasanaethau plismona barhau i gynyddu, cynyddu a wna’r angen i ddod o hyd i ddatrysiadau cynaliadwy system gyfan ar draws wasanaethau cyhoeddus hefyd – ac mae Timoedd Plismona ac Atal Bro yn chwarae rhan hollbwysig yn hyn, gan weithio gyda phartneriaid bob dydd i ddatod materion cymhleth a darparu cymorth na fyddai’n bosibl fel arall.”

 

O dros 140,000 o ddigwyddiadau a gofnodwyd gan Heddlu Dyfed-Powys yn y 12 mis a ddaeth i ben fis Gorffennaf 2024i, roedd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cyfrif am bron 2% (2,705 o ddigwyddiadau cofnodedig) – sydd gyfwerth â dros saith digwyddiad y dydd.ii

Yn yr un cyfnod, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys 33,553 o droseddau. O’r rhain, roedd 4,391 yn lladradau; roedd 3,452 yn achosion o ddifrod troseddol; ac roedd 1,963 yn achosion o siopladrata – troseddau sydd fel arfer yn cael eu trin gan dimoedd plismona bro – sy’n cyfrif am 30% o’r holl droseddauiii a gofnodwyd.

 

Aeth Dr Lewis yn ei flaen i ddweud: “Yn ddaearyddol, Heddlu Dyfed-Powys yw’r ardal heddlu fwyaf yng Nghymru a Lloegr. Gan gwmpasu hanner tirwedd Cymru, mae’r heddlu’n wynebu heriau plismona unigryw o ran sicrhau bod adnoddau’n cael eu lleoli’n effeithiol ac effeithlon er mwyn atal trosedd, lleihau niwed ac ymateb i alwadau am wasanaeth.

“Tra bod timoedd plismona bro bob amser wedi helpu i atal troseddau drwy ymagweddau datrys problemau, dros amser, mae eu cylch gorchwyl wedi ehangu llawer.

“O dan yr ymagwedd hon, yr ydym yn ail-ganolbwyntio ein hymdrechion ar waith pwysig atal, datrys problemau ac ymyrraeth gynnar, sy’n atal problemau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag datblygu’n droseddau.

“Mae’r cysylltiadau cryf maen nhw’n creu gyda’n cymunedau llawn mor bwysig, sy’n golygu eu bod nhw yn y sefyllfa orau i gasglu cudd-wybodaeth ar amrediad o faterion.

“Mae’r cysylltiadau cryf hyn gyda phreswylwyr lleol, partneriaid a busnesau’n helpu i hysbysu ein hymateb i faterion lleol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau.”

 

Drwy gyflenwi strategaeth atal ar gyfer 2024-2028, bydd Timoedd Plismona ac Atal Bro yn canolbwyntio ar ddatrys problemau tymor hir a mentrau ymyrraeth gynnar i fynd i’r afael â materion ansawdd bywyd sy’n cynyddu ofn trosedd.

Yn ganolog i hyn mae’r gwaith y mae swyddogion heddlu ysgolion penodol yn cyflenwi, gan ddarparu addysg a chymorth lles hollbwysig i ddisgyblion ysgol 5-16 oed drwy gwricwlwm dwyieithog sydd yn cyfrannu at ddiogelwch disgyblion ac yn darparu gofal bugeiliol sy’n medru cefnogi plant a phobl ifainc a allai gyflawni troseddau ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol fel arall.

 

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, wedi ailddatgan ei ymrwymiad tuag at raglen ysgolion benodol a’i hestyn i sefydliadau addysg uwch yn ardal Dyfed-Powys – er waethaf toriadau i gyllid canolog.

Meddai: “Mae diogelwch a lles ein plant yn hollbwysig, ac mae rôl swyddogion heddlu ysgolion wedi bod yn hanfodol ar gyfer creu amgylcheddau diogel a chefnogol yn ein hysgolion.

“Roedd unrhyw ostyngiad o ran cefnogaeth i’r rhaglen hon mewn perygl o gyfaddawdu datblygiad a diogelwch ein pobl ifainc. Dyna pam rwyf wedi blaenoriaethu parhau â’r Gwasanaeth Rhaglen Ysgolion yn ein hardal.

“Dyma oedd un o’n prif ymrwymiadau yn ystod fy ymgyrch i gael fy ail-ethol, ac rwy’n glynu wrth fy addewid i gefnogi ein hysgolion a’n pobl ifanc.

“Mae cynnal y Gwasanaeth Ysgolion yn hollbwysig ar gyfer y cymorth a’r diogelwch uniongyrchol mae’n cynnig, yn ogystal â lles a llwyddiant disgyblion yn y dyfodol. Byddaf yn parhau i ymladd am ei ddyfodol a gwarchod buddiannau gorau ein plant.”

 

Tan fis Mawrth 2025, bydd 10 o’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys yn derbyn 11,000 awr ychwanegol o batrolau heddlu drwy ymateb a elwir yn Ymgyrch Ivydene, diolch i chwistrelliad o arian gan y Swyddfa Gartref.

i Cofnododd Heddlu Dyfed-Powys 142, 544 o ddigwyddiadau yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben fis Gorffennaf 2024.

ii Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2024, cofnododd Heddlu Dyfed-Powys 142,544 o ddigwyddiadau. Roedd digwyddiadau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cyfrif am 1.9% (2705) o’r rhain – gostyngiad o 1.1% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

iii Yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Gorffennaf 2024, cofnodwyd 33,553 o droseddau. Mae troseddau lladrata’n cyfrif am 13.1%, difrod troseddol am 10.3%, a siopladrata am 5.9% (4391, 3452 a 1963 o droseddau yn ôl eu trefn)

 

Am ragor o wybodaeth am Ymgyrch Ivydene a pha un ai a yw'n fyw yn eich ardal chi, galwch heibio i:

Ymgyrch Ivydene

 

Dilynwch eich Timoedd Plismona ac Atal Bro lleol ar gyfryngau cymdeithasol am ragor o newyddion am blismona, apeliadau, a hysbysiadau am ddigwyddiadau ymgysylltu.

Dilynwch eich tudalen lleol

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.