Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddeng mlynedd yn ôl, doedd gan Karen ddim syniad y byddai’n treulio ei diwrnodau’n gweithio mewn swyddfa farchnata a’i nosweithiau’n gweithredu gwarantau cyffuriau gyda Heddlu Dyfed-Powys. Heddiw, wrth iddi baratoi i ddathlu degawd o wasanaeth fel Cwnstabl Gwirfoddol, mae stori Karen yn enghraifft berffaith o’r ffordd y mae’r swydd unigryw hon yn galluogi unigolion i brofi bywyd ar y rheng flaen – hyd yn oed pan mae ganddynt yrfa broffesiynol brysur.
Wrth ddarllen papur newydd lleol ddeng mlynedd yn ôl, ysgogwyd chwilfrydedd Karen wrth iddi ddod ar draws hanes cyffrous Cwnstabl Gwirfoddol arall yn yr ardal leol. Wedi’i gafael gan gyffro a her plismona, mentrodd Karen, gan ymuno â’r Heddlu Gwirfoddol yn 2014.
Heddiw, dywed Karen mai un o’i hoff agweddau o’r swydd yw cymryd rhan mewn gwarantau chwilio.
Meddai, “Mae’r cydlynu a’r cynllunio gofalus tu ôl i’r gweithrediadau hyn yn creu awyrgylch o ddisgwyliad a ffocws. Rwyf wir yn mwynhau bod yn rhan o ddigwyddiadau fel hyn sydd wedi’u trefnu. Ar gyfer swyddog heddlu, gall deimlo fel camu i mewn i olygfa mewn ffilm.”
Disgrifia Karen y foment llawn adrenalin pan ddaeth o hyd i fag chwaraeon llawn arian wedi’i lapio’n daclus â bandiau elastig yn ystod gwarant gyffuriau - darganfyddiad a fyddai’n arwain at euogfarn droseddol am feddu ar gyffuriau dosbarth A â’r bwriad o werthu yn y pen draw.
Er bod digon o gyffro yn y maes plismona, dywed Karen fod “boddhad dyfnach o wybod eich bod chi’n chwarae rhan hollbwysig o ran mynd i’r afael â throseddau difrifol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau, yn eich cymuned eich hun.”
Roedd dod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn ail natur i Karen. Fel cymeriad rhadlon a naturiol gymdeithasol, galluogodd y swydd hi i gofleidio ei sgiliau rhyngbersonol cryf, a hyd yn oed gwneud ffrindiau oes yn ystod y cwrs hyfforddi cychwynnol – llawer ohonynt sydd dal yn gweithio mewn gwahanol gymunedau ledled ardal Dyfed-Powys heddiw.
Ar ôl dwy flynedd fel Cwnstabl Gwirfoddol, dyrchafwyd Karen i reng Rhingyll, lle mae hi nawr yn arwain tîm bach o Gwnstabliaid Gwirfoddol yn ardal Sir Benfro. “Mae’r swydd yn wrthgyferbyniad llwyr i’m gyrfa yn y maes marchnata, sydd wedi’i lleoli mewn swyddfa yn bennaf,” meddai Karen. “Y mae wedi caniatáu imi gamu i mewn i galon y gymuned wrth imi gwrdd â phobl o bob cefndir a sgwrsio gyda nhw.”
“Mae’n swydd heriol, ac yn aml, gall eich profi hyd at derfyn eich gallu, ond dyna sy’n ei gwneud hi’n werth chweil. Os ydych chi’n edrych ar ehangu eich sgiliau, magu eich hyder, a rhoi nôl i’r gymuned, does dim gyrfa debyg iddi. Argymhellaf ddod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn frwd. Y mae wir yn eich galluogi i gael y gorau o ddau fyd.”
Os ydych chi’n chwilio am eich her nesaf, neu’n chwilfrydig am fywyd mewn lifrai, mae Heddlu Dyfed-Powys nawr yn croesawu ceisiadau gan unigolion ymroddedig i ymuno â’i rengoedd fel Cwnstabl Gwirfoddol.
Cewch wybod mwy am y meini prawf cymhwysedd, y broses ymgeisio a recriwtio, a phori drwy’r Cwestiynau Cyffredin, fan hyn.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn cynnal digwyddiad recriwtio ar-lein ar gyfer y rhai sy’n awyddus i ddarganfod mwy am wneud cais i fod yn Gwnstabl Gwirfoddol. Gweler y manylion isod:
30 Medi am 7y.h. – Ar-lein – Mae’r ddolen ar gyfer MS Teams fan hyn