Stamp amser presennol: 03/08/2026 12:34:16
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

‘Rwy’n teimlo fel fy mod i wedi dod allan o barth rhyfel ar ôl cael fy stelcio’ | Wythnos Ymwybyddiaeth Stelcio

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 07:05 22/04/2025

Stalking awareness week Megan's story CYM.jpg

“Rwy’n hynod o wyliadwrus ac ar bigau’r drain o hyd. Rwy’n teimlo fel fy mod i wedi dod allan o barth rhyfel.”

Dyma eiriau dynes a gafodd ei stelcio am fisoedd lawer gan gyn bartner â’i dilynodd, a fynnodd eu bod yn sgwrsio drwy’r nos drwy alwad fideo, ac a wnaeth hyd yn oed gwrando arni drwy system Alexa.

Roedd Megan yn fregus pan gwrddodd â Dean yn 2021. Roedd ei pherthynas hirdymor ddiwethaf newydd orffen, ac yn sydyn, roedd hi’n llywio bywyd fel mam sengl newydd.  

Gwnaeth Dean yr holl addewidion cywir, gan wneud i Megan gredu y byddai yno iddi hi a’i phlant, ac fe wnaethant ffurfio perthynas ddwys yn sydyn. O fewn misoedd, roedd hi’n feichiog, ac yn ei geiriau hi, yn “gaeth”.  

“Rwy’n gwybod nawr ei fod yn targedu menywod bregus,” meddai. “Roedd e’n ddymunol iawn. Roedd e eisiau rhoi’r byd imi. O edrych yn ôl, gallaf wedi ei fod yn fy momio â chariad. Doedd e ddim yn real.”

Esboniodd Megan sut y byddai Dean yn gofyn iddi aros ar alwadau fideo drwy’r nos, gan honni ei fod yn poeni amdani hi a’u plentyn yn y groth. Fodd bynnag, sylweddolodd yn ddiweddarach mai ffordd o’i rheoli oedd hyn.  

Daeth â’r berthynas i ben yn fuan ar ôl genedigaeth eu baban oherwydd ei fod yn yfed, yn cymryd cyffuriau, ac yn cael perthnasau gyda menywod eraill. Serch hynny, ymdrechodd i gyd-rianta, ac fe’i anogodd i dreulio amser gyda’u babi.

Dyma lle ddechreuodd ei gam-drin meddyliol, meddai.  

“Roeddwn i wedi blino’n lân,” meddai. “Roeddwn i ar ddihun y rhan fwyaf o’r nos yn ei bwydo, ac roeddwn i’n edrych ar ôl fy mhlant eraill. Roedd e’n flinedig iawn.

“Byddai’n cael y babi am awr ar y tro. Byddai’n ei chasglu yn y bore, yn mynd ag ef gyda hi wrth hebrwng y plant eraill i’r ysgol, ac yna’n dod â hi nôl ataf. Wrth gât yr ysgol, roedd e’n edrych fel arwr o dad a oedd yn gofalu am y babi tra mod i’n cysgu.

“Byddai’n dweud wrthyf ei fod yn gofalu amdani o hyd, ond mewn gwirionedd, fe wnaeth ei bwydo a rhoi bath iddi unwaith mewn tri mis – gwnaeth imi deimlo fel fy mod i’n mynd o’m co’.

“Ond roedd yn rhaid imi ymdrechu. Pe bawn i’n ei herio, byddai’r dagrau’n dod a byddai’n bygwth lladd ei hun. Gwyddai y byddai hynny’n fy nhawelu.”

Dwysaodd ei ymddygiad rheolaethol, a chyn bo hir, roedd Dean yn defnyddio unrhyw ffordd bosibl i wneud ei bresenoldeb yn hysbys ym mywyd Megan. Byddai’n gwrando ar yr hyn a oedd yn digwydd yn ei chartref drwy ei system Alexa, yn gwneud sawl galwad fideo bob dydd fel ei fod yn gallu gweld ble’r oedd hi a phwy oedd gyda hi, ac yn anfon cerddoriaeth i’w theledu drwy YouTube bob amser o’r dydd a’r nos. Byddai’n cerdded heibio i’w thŷ sawl gwaith y dydd, a’r un tro aeth hi allan heb ei ffôn, fe ddilynodd hi mewn car i weld ble’r oedd hi.

“Un noson, dywedodd ei fod yn methu cael gafael arnaf,” meddai. “Roedd yn ffonio a ffonio a ffonio, felly yn y pen draw, dywedais fy mod i wedi syrthio i gysgu. Fe wnaeth fygwth cymryd y babi wrthyf, felly galwais i’r heddlu.

“Pan wnaethant gyrraedd, gallwn ei weld yn cerdded i fyny’r stryd tuag at fy nhŷ. Roedd e’n fy ffonio i, a dywedodd ei fod yn poeni gan nad oeddwn i’n ateb ei alwadau – eto, roedd e’n dweud y pethau iawn i edrych fel tad da.

“Cafodd ei arestio, ond ar y pryd, doeddwn i ddim eisiau dwyn cyhuddiadau yn ei erbyn. Roeddwn i eisiau iddo fod yn rhybudd nad oeddwn i’n mynd i oddef ei ymddygiad.”

Y tro nesaf i’r pâr drefnu bod Dean yn gweld y babi, digwyddodd rhywbeth a fyddai’n newid bywyd Megan am byth. Ymosododd Dean ar Megan drwy ei chrogi’n fwriadol, a chafodd ei arestio yn syth.  

Er bod amodau ei fechnïaeth yn ei atal rhag cysylltu â Megan, parhaodd i’w stelcio. Gwnaeth 57 galwad i Heddlu Dyfed-Powys mewn blwyddyn, yn adrodd am bob digwyddiad, ni waeth pa mor fân yr oeddent yn ymddangos. Cafodd ei rhoi mewn cysylltiad â chydlynydd cynlluniau troseddwyr stelcio a cham-drin domestig yr heddlu er mwyn i’w hachos gael ei asesu.

“Cerddodd heibio i’m tŷ sawl gwaith y dydd, roedd e’n ffonio perthynas imi, ac roeddwn i’n cael galwadau o rif preifat,” meddai Megan. “Byddai’n syllu i mewn i’m tŷ, a’m dilyn i mewn i siopau.

“Adroddais am bopeth, ond roedd yn glyfar iawn amdano. Byddai’n peswch cyn cerdded heibio i’m tŷ. Ni allwn adrodd amdano wrth yr heddlu am beswch, ond roedd yn ei wneud yn glir i mi ei fod yno. Pan fyddai’n fy nilyn i mewn i’r siop, byddai’n rhythu arnaf ac yna gadael. Byddai ond yn y siop yn ddigon hir i mi ei weld, felly ni allwn ddweud ei fod wedi gwneud rhywbeth o’i le. Nid yw’r rhain yn droseddau ar ben eu hun, ond gyda’i gilydd, roedd yn nodweddiadol o ymddygiad stelcio.

“Roeddwn i’n ofni ble fyddwn i’n ei weld nesaf o hyd. Gofynnwyd imi pa un ai a oeddwn i’n ofni am fy mywyd, ac oeddwn, mi roeddwn i. Roedd e’n cymryd cyffuriau, roedd e wedi fy nghrogi i, doedd e ddim yn gallu gweld ei blentyn – gallai fod wedi gwneud unrhyw beth.”

Gosododd Megan gamerâu yn ei chartref, newidiodd ei chyfrineiriau wifi, cafodd larymau mwg ychwanegol wedi’u gosod, a blwch tân wedi’i osod ar ei blwch llythyrau. Gosododd gloch drws camera ac ychwanegodd gadwyni i’w drws.

Tri diwrnod ar ôl i’r cydlynydd stelcio asesu’r achos, arestiwyd Dean eto. Cafodd ei gyhuddo o grogi bwriadol ac ymosod drwy guro, fodd bynnag, dywedwyd wrth swyddogion nad oedd ddigon o dystiolaeth i fodloni’r trothwy ar gyfer stelcio.

Yn anffodus, gollyngodd GEG y cyhuddiadau yn erbyn Dean cyn y gallai achos llys gael ei gynnal.

“Gofynnwyd imi pa un ai a oeddwn i eisiau symud i loches ar gyfer menywod, ond gwrthodais y cynnig,” meddai. “Dyma gartref fy mhlant. Rwyf wedi ei wneud yn gyfforddus iddynt, a doeddwn i ddim eisiau tarfu ar eu bywydau drwy symud. Roedd yn rhaid imi wneud y penderfyniad i adael ein cartref neu gymryd beth oedd yn teimlo fel risg mewn aros.

“Ni chysgais. Arhosais ar ddihun rhag ofn y byddai’n ymweld â’m cartref – roedd angen imi fod yn barod i ymateb bob amser. Roeddwn i wedi ymlâdd.

“Hyd yn oed nawr, rwy’n hynod o wyliadwrus ac ar bigau’r drain o hyd. Rwy’n teimlo fel fy mod i wedi dod allan o barth rhyfel.”

Pan ollyngwyd y gweithdrefnau troseddol, caniatawyd gorchymyn peidio ag ymyrryd i Megan yn erbyn Dean. Mae hyn yn ei wahardd rhag defnyddio, neu fygwth, trais corfforol yn ei herbyn, ei dychrynu, aflonyddu arni, ei phoenydio neu gyfathrebu â hi. Mae’n un o nifer o orchmynion cyfreithiol y gellir eu rhoi ar waith er mwyn gwarchod dioddefwyr cam-drin domestig, stelcio ac aflonyddu (cewch ragor o wybodaeth fan hyn: Gorchmynion amddiffynnol | Heddlu Dyfed-Powys).

Er na chwblhawyd gweithdrefnau troseddol, mae Megan yn teimlo bod yr heddlu wedi ei chefnogi yn ystod ei phrofiad, ac mae’n canmol rhai o’r mentrau sy’n cael eu defnyddio i fynd i’r afael â cham-drin domestig, stelcio ac aflonyddu. Elwodd yn arbennig o ddefnyddio’r Uned Ymateb Fideo i Gam-drin Domestig newydd, a arweiniodd at amserau ymateb cynt pan gyflwynodd adroddiadau.

Er ei bod hi dal yn byw gydag effeithiau ymddygiad Dean, mae Megan yn gobeithio y gall rhannu ei phrofiad annog eraill i estyn allan am gymorth.

“Fy nghyngor i ar gyfer unrhyw un sy’n mynd drwy brofiad tebyg yw cadwch adrodd am ddigwyddiadau wrth yr heddlu,” meddai. “Peidiwch ag aros tan fod pethau wedi gwaethygu i estyn allan - ni waeth pa mor fach mae’n ymddangos, mae pob galwad ffôn yn rhan o’r darlun. Heb yr hanes, bydd y troseddwr yn dweud ei fod heb wneud dim o’i le.

“Rwy’n angerddol am hyn. Rwyf eisiau defnyddio’r hyn rwyf wedi dioddef i wneud newid i fy mhlant i, a’u plant nhw.”

Er mwyn cael gwybod am arwyddion stelcio, cliciwch yma: Beth i'w wneud nawr os ydych chi'n cael eich stelcio neu’ch aflonyddu | Heddlu Dyfed-Powys

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.