Stamp amser presennol: 03/08/2026 08:17:54
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Eich dyfodol. Eich dewis.

Cynnwys y prif erthygl

Powys
Cyhoeddwyd: 17:21 09/12/2025

Mae ymgyrch tair wythnos am ddiogelwch ffyrdd, gyda’r nod o addysgu gyrwyr ifanc a beicwyr am beryglon y ffordd, wedi’i chyflwyno’n llwyddiannus ar draws ysgolion uwchradd ym Mhowys. Pwysleisiodd ymgyrch Eich Dyfodol Eich Dewis, a gyrhaeddodd gannoedd o fyfyrwyr, bwysigrwydd hanfodol arferion gyrru a beicio diogel.

Cododd yr ymgyrch, sef ymdrech ar y cyd rhwng swyddogion plismona’r ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys, swyddogion cyswllt ysgolion, y gwasanaeth tân, a thimau diogelwch ffyrdd Cyngor Powys, ymwybyddiaeth o ganlyniadau ymddygiad peryglus, a sut i gadw’n ddiogel y tu ôl i’r llyw. Ffocws allweddol yr ymgyrch oedd atgyfnerthu’r neges bod diogelwch ar y ffyrdd yn gyfrifoldeb a rennir sy’n gofyn am ddewisiadau mwy diogel gan bawb.

Dywedodd Rhingyll Plismona’r Ffyrdd, Rob Hamer, “Ein pobl ifanc yw gyrwyr a beicwyr yfory, ac mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau iddynt gadw’n ddiogel ar y ffyrdd.

“Mae ymgyrch Eich Dyfodol Eich Dewis wedi dod ag asiantaethau lleol ynghyd i ddarparu neges glir: mae diogelwch ar y ffyrdd yn gyfrifoldeb i bawb. Drwy gydweithio, gallwn helpu i atal gwrthdrawiadau ac achub bywydau.”

Dros y cyfnod o dair wythnos, clywodd 724 o fyfyrwyr gan ein swyddogion am bwysigrwydd gyrru cyfrifol, peryglon goryrru, gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, defnyddio dyfais symudol, gwisgo gwregys diogelwch, a gyrru diofal a pheryglus. Gelwir y rhain yn y Pump Angheuol. Clywsant hefyd hanes Olivia Alkir mewn ffilm bwerus a ryddhawyd ym mis Mawrth 2022. Mae Stori Olivia yn esbonio sut y cafodd Olivia, 17 oed o Ruthun, ei lladd yn drasig ar y B5105 yn Rhuthun ym mis Mehefin 2019 yn dilyn gwrthdrawiad lle bu dau yrrwr ifanc yn rasio. 

Fe wnaeth yr heddlu hefyd siarad am drwyddedau gyrrwyr newydd, y gyfraith a phwyntiau cosb.

Dywedodd y Swyddogion Cyswllt Ysgolion Lindsay Sweetman a Gayle Jones, “Rydym yn gobeithio, trwy glywed stori Olivia, y bydd myfyrwyr yn gadael gyda gwell dealltwriaeth o’r risgiau sy’n gysylltiedig â gyrru a beicio, a’r cyfrifoldeb sydd ganddynt pan fyddant yn mynd y tu ôl i’r llyw.” 

Fe wnaeth swyddogion Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gynnig gweithgareddau ymarferol ar yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, oedd yn cynnwys y defnydd o gogls rhith-realiti, a gogls cwrw lle roedd y myfyrwyr yn gorfod symud o amgylch conau tra'n efelychu bod dan ddylanwad sylweddau, a'r effaith ar yrru. 

Siaradodd Jim Campbell a Robert Griffiths o adran Ddiogelwch Ffyrdd Powys am yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau a rhoi arddangosiadau ymarferol o sut mae'r heddlu yn cael samplau wrth yrrywr ar ymyl y ffordd. 

Ychwanegodd swyddog diogelwch ffyrdd Cyngor Sir Powys, Jim Campbell, “Mae’r ymgyrch hon yn gallu creu effaith barhaol. Gall addysgu gyrwyr ifanc nawr wneud gwahaniaeth enfawr i leihau nifer y gwrthdrawiadau a marwolaethau ar ein ffyrdd yn y dyfodol.”

Mae adborth gan fyfyrwyr wedi bod yn hynod gadarnhaol, gyda llawer yn dweud eu bod yn teimlo'n fwy hyderus yn eu gallu i wneud dewisiadau diogel ar y ffordd. Sbardunodd yr ymgyrch hefyd drafodaethau gwerthfawr ymhlith myfyrwyr am bwysau gan gyfoedion, peryglon ymddygiadau’r Pump Angheuol, a phwysigrwydd codi llais os ydynt yn gweld gyrru’n anniogel.

Mae’r digwyddiad yma yn rhan o ymrwymiad parhaus gan Heddlu Dyfed-Powys ac asiantaethau partner i leihau gwrthdrawiadau a marwolaethau ar ein ffyrdd.

Dysgwch fwy am yr ymgyrch ar ein gwefan - Eich Dewis. Eich Dyfodol. | Heddlu Dyfed-Powys

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.